Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Luke
Fletcher AS ei ymddiheuriadau. |
|
Deisebau Newydd |
|
P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
cwmnïau trenau, First Great Western a
Thrafnidiaeth Cymru, yn gofyn pryd y byddant yn barod i redeg trenau i Fagwyr
ac oddi yno, a pha rwystrau penodol, os o gwbl, sydd ar y safle i'w hatal rhag
gwneud hynny yn gynt. |
|
P-06-1296 Gwnewch gyffordd Dorglwyd, Comins Coch ar yr A487 yn fwy diogel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb gan nodi ymrwymiad y Gweinidog i gymryd unrhyw gamau
angenrheidiol y mae'r Adolygiad o Ffyrdd yn eu hargymell i wella diogelwch ar y
gyffordd hon. Yng ngoleuni ymrwymiad y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1298 Deiseb ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y Brifysgol wedi ymchwilio i honiadau, bod yr
Heddlu'n ymwybodol o'r mater ac nid yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd. Yn sgil
hyn, cytunodd yr Aelodau na ellir mynd â’r ddeiseb hon ymhellach, cafodd y
ddeiseb ei chau a diolchwyd i’r deisebydd. |
|
P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir ynghylch y
rhesymu dros dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i'r gweithwyr gofal cymdeithasol
hynny sydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd
yr Aelodau ei bod yn anodd gweld beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn
o bryd a chafodd y ddeisesb ei chau a diolchwyd i'r deisebydd. |
|
P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a nodi'r gwaith helaeth a wnaed yn ddiweddar gan Bwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, a gafodd ei gyhoeddi a'i
drafod yn gynharach eleni. Cytunodd yr
aelodau i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog yn rhannu gohebiaeth y
deisebydd ac yn gofyn iddi fynd i'r afael â:
pha gynlluniau
sydd ar gael i roi cefnogaeth gyffredinol i rieni sydd angen darpariaeth gofal
plant. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ailedrych arni ymhen chwe mis i weld pa
gynnydd sydd wedi'i wneud. |
|
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog yn gofyn iddi
fynd i'r afael â rhai cwestiynau heb eu hateb yn sgil y drafodaeth yn y
Cyfarfod Llawn. |
|
P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ailystyrodd y
Pwyllgor y ddeiseb yn sgil rhagor o ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunwyd i ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog i ofyn pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi busnesau
hunanddarpar na fydd yn gallu cwrdd â lefel y ddeiliadaeth oherwydd diffyg
galw, yn arbennig yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf ac os yw ystadegau'n
dangos dirywiad sydyn mewn eiddo hunanddarpar,
a yw Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y cyfraddau deiliadaeth ac yn
ystyried eu hadolygu. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |