P-06-1296 Gwnewch gyffordd Dorglwyd, Comins Coch ar yr A487 yn fwy diogel
P-06-1296 Gwnewch gyffordd Dorglwyd, Comins Coch ar yr A487 yn fwy diogel
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Saleena Tomlinson, ar ôl casglu cyfanswm o 496
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r gyffordd hon ar yr A487 yn beryglus iawn. Bu llawer o ddaweiniau
arni, a digwyddiadau a oedd bron yn ddamweiniau. Daw ceir rownd y gornel ddall
yn rhy gyflym.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Credwn y byddai modd gwella diogelwch drwy gyfyngu’r cyflymder i 30 mya neu
drwy osod cylchfan neu oleuadau traffig.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/11/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi ymrwymiad y Gweinidog i gymryd unrhyw gamau
angenrheidiol y mae'r Adolygiad o Ffyrdd yn eu hargymell i wella diogelwch ar y
gyffordd hon. Yng ngoleuni ymrwymiad y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/11/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/09/2022