P-06-1298 Deiseb ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd
P-06-1298 Deiseb ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christian Wilton-King, ar ôl casglu cyfanswm o
2,346 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn ystod y misoedd diwethaf ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gweithredwyr
hawliau trawsryweddol wedi cynnal ymgyrch aflonyddu a bygythiadau treisgar yn
erbyn academyddion sy’n feirniadol o Stonewall. Rydym yn teimlo nad yw’r
brifysgol na’r heddlu wedi amddiffyn yr academyddion sydd, o bosibl, yn
adlewyrchu cysylltiadau’r sefydliadau hyn â Stonewall. Rydym yn galw am
ymchwiliad i’r mater hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn dilyn llythyr agored ym mis Mehefin 2021 a awgrymodd fod Prifysgol
Caerdydd yn gadael Stonewall, dosbarthodd protestwyr daflen ag enwau a
lluniau’r 15 academydd a oedd wedi’i lofnodi dan y pennawd ‘GWEITHREDWCH NAWR’.
Cyflwynodd chwythwr chwiban negeseuon o dudalen Facebook y Gymdeithas LHDTC+.
Ysgrifennodd myfyrwyr negeseuon hynod ymosodol, gan gynnwys bygythiadau i’r
llofnodwyr.
Mae’r brifysgol wedi gwrthod cymryd camau gweithredu ystyriwn fel ystyrlon,
er gwaethaf gwybod pwy oedd nifer o’r rhai oedd yn gyfrifol. Mae’n amser am
ymchwiliad.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos hwn i’w gweld yma: https://freespeechunion.org/letter-to-jeremy-miles-ms-minister-for-education-and-welsh-language-concerning-a-campaign-of-violent-threats-and-harassment-against-several-of-our-members-who-are-all-academics-at-cardiff-universit/.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/11/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y Brifysgol wedi ymchwilio i honiadau, bod yr
Heddlu'n ymwybodol o'r mater ac nid yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd. Yn sgil
hyn, cytunodd yr Aelodau na ellir mynd â’r ddeiseb hon ymhellach, cafodd y
ddeiseb ei chau a diolchwyd i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/11/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2022