P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anita Braine, ar ôl casglu cyfanswm o 540 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ceisiadau am daliadau gofal cymdeithasol ychwanegol wedi’i alinio â’r Cyflog Byw Gwirioneddol (taliad trethadwy o £1,498). Mae’n dweud bod y taliad ‘yn dangos ein hymrwymiad i wella statws, telerau ac amodau a llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.'

 

Wrth eithrio pob rôl hanfodol arall mewn cartref gofal, teimlwn fod y Llywodraeth wedi dibrisio ein cyfraniad, a’i bod yn disytyru’r darparwyr gofal hanfodol hyn y mae rheolwyr gofal yn cytuno eu bod yn gwbl angenrheidiol!

 

Dim ond ‘gweithwyr gofal, uwch staff gofal, rheolwyr gofal a nyrsys' cymwys fydd yn cael y taliad hwn ac mae cydweithwyr yn yr un cartref sydd mewn swyddi arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, staff cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau yn cael eu heithrio’n benodol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Fel y dywedodd rheolwr fy nghartref gofal i: “Os nad oes gen i bobl yn coginio bwyd yn y gegin sut y byddaf yn bwydo'r preswylwyr?”

 

Mae pawb yn gwybod bod gwaith gofal yn talu’n wael, felly mae'r rhan fwyaf sy'n gwneud y gwaith yn gwneud hynny oherwydd eu cariad a’u tosturi tuag at y rhai y maent yn gofalu amdanynt. Er ei bod yn hen bryd cydnabod y swyddi gwych hyn, mae'n hynod annheg gwahaniaethu rhwng swyddi mewn lleoliad cartref gofal.

 

Helpwch i gefnogi staff ein cartrefi gofal!

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/11/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir ynghylch y rhesymu dros dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny sydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau ei bod yn anodd gweld beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd a chafodd y ddeisesb ei chau a diolchwyd i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/11/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2022