Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/05/2023 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.10 - 09.45)

1.

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: trafod y materion o bwys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y materion o bwys ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arnynt.

 

 

(09.45)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS. Roedd Vikki Howells AS yn dirprwyo ar ei ran.

 

 

(09.45 - 10.45)

3.

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: sesiwn dystiolaeth gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu canlyniadau arolwg y diwydiant.

3.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu’r rhestr o brosiectau sydd wedi’u cefnogi.

 

 

(10.45)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

4.1

Rhaglen PEACE PLUS 2021-2027

Dogfennau ategol:

4.2

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

4.3

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

(10.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod nesaf (7 Mehefin 2023)

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(10.55-11.15)

6.

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 

(11.15 - 11.20)

7.

Diogelu’r casgliadau cenedlaethol: trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.

 

 

(11.20 - 11.40)

8.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).

 

 

(11.40 - 11.45)

9.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.

 

 

(11.45 - 12.00)

10.

Honiadau'n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: trafodaeth ar y strategaeth ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y strategaeth ymgysylltu a chytunodd arni.

 

 

(12.00 - 12.15)

11.

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

11.1

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.

 

 

11.2

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: ymweliadau tramor ac ymwelwyr (Chwefror - Ebrill 2023)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1.2 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar gysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: ymweliadau tramor ac ymwelwyr (Chwefror - Ebrill 2023).

 

 

11.3

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1.3 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.

 

 

(12.15 - 12.40)

12.

Blaenraglen waith

12.1

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer haf 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.

 

12.1.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymuno â chyfarfod y Pwyllgor ar 14 Mehefin 2023 ar gyfer sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar Addysg Gymraeg.

12.1.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu i ymweld â safleoedd angori'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn ystod toriad yr haf.

 

 

12.2

Oriel gelf gyfoes genedlaethol: trafod y papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.2.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas yr ymchwiliad, a chytunodd arno.