Rhaglen PEACE PLUS 2021-2027
Rhaglen PEACE PLUS 2021-2027
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad sy’n gyfrifol am
fonitro'r broses o weithredu cytundebau rhyngwladol nad ydynt yn ymwneud â
masnach yn y Chweched Senedd.
Yn ystod ei
gyfarfod ar 24
Ebrill 2023 , trafodwyd y DU/Iwerddon/CE: Cytundeb Ariannu ar Raglen PEACE
PLUS 2021-2027.Mae’r cytundeb hwn yn darparu mecanwaith i’r DU, Iwerddon a'r UE
ariannu PEACE PLUS ar y cyd, rhaglen ariannu heddwch trawsffiniol yr UE. Bydd y
cytundeb rhyngwladol hwn yn llywodraethu’r broses o weithredu rhaglen PEACE
PLUS a chyfraniadau'r partïon.
Ar 12 Mai,
ysgrifennodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y
pwyllgorau a ganlyn ar ôl iddynt ystyried y cytundeb:
>>>>
>>> Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
>>> Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ; ac
>>> Y
Pwyllgor Cyllid .
<<<<
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/06/2023