Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Tom Giffard AS ac roedd
Samuel Kurtz AS yn bresennol fel dirprwy. Dymunodd y Pwyllgor wellhad buan i
Tom Giffard ac roedd yr aelodau’n edrych ymlaen at ei groesawu’n ôl yn fuan. 1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Heledd
Fychan AS, Carolyn Thomas AS a Samuel Kurtz fuddiannau perthnasol. |
|
(09.00-10.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Diwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Dawn Bowden
AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Dean Medcraft, Cyfarwyddwr
Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Tystiolaeth
ysgrifenedig Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr
Economi a’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip. 2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth
am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu. |
|
(10.00-10.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Cysylltiadau rhyngwladol Mark Drakeford
AS, Prif Weinidog Cymru Andrew Gwatkin,
Director International Relations and Trade, Llywodraeth Cymru Paula Walsh, Dirprwy
Gyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol, Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog. 3.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o
wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu. |
|
(10.40-11.40) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Y Gymraeg Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd, Cyfarwyddwr
y Gymraeg ac Addysg, Llywodraeth Cymru Bethan Webb, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Tystiolaeth ysgrifenedig
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg
a’r Gymraeg. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am
faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu. |
|
(11.40) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.40-12.00) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y materion a godwyd yn y
cyfarfod. |
|
(12.00-12.30) |
Adolygu amserlen y pwyllgor a’i gylchoedd gwaith Llythyr gan y
Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i
drafod ei ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes y tu allan i’r cyfarfod hwn. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r cyfryngau yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Amgueddfa Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch rhagor o wybodaeth am ei gwaith Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch effaith y Bil Amaethyddiaeth yn y dyfodol ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn yr ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch recriwtio ar gyfer swydd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dilyn y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip ynghylch cymhwysedd ar gyfer Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol ac Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y Gronfa Adferiad Diwylliannol Dogfennau ategol: |