Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2021 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Heledd Fychan AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS, Carolyn Thomas AS a Tom Giffard AS ddatganiadau o fuddiant perthnasol.

 

Datganodd Heledd Fychan MS y buddiannau canlynol: mae hi'n gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae hi'n llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Cymraeg Evan James, a chefnogodd yr adolygiad barnwrol ynghylch ad-drefnu ysgolion ym Mhontypridd.

 

Datganodd Carolyn Thomas AS ei bod yn gynghorydd ar Gyngor Sir y Fflint

 

Datganodd Tom Giffard AS ei fod yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

(09.30-10.30)

2.

Sesiwn i graffu ar waith Gweinidogion: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr – y Gymraeg

 

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Papur tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

(10.45-11.05)

3.

Craffu ar waith Comisiynydd y Gymraeg

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Gwenith Price, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

(11.05-12.05)

4.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2020-21 a’r Adroddiad Sicrwydd 2020-21.

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Gwenith Price, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

Adroddiad Blynyddol 2020-21

 

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

 

(12.05-12.10)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.3

Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr at Lywodraeth Cymru yn dilyn y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog gyda Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr at Lywodraeth Cymru ar effaith gwerthu Bad Wolf

Dogfennau ategol:

5a

Ymateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar yr argyfwng ffoaduriaid Affganistan.

Dogfennau ategol:

5b

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon am berchnogaeth Channel 4.

Dogfennau ategol:

(12.20-12.30)

8.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser cyfarfod ychwanegol.

 

(12.10)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.10-12.20)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y materion a godwyd yn y cyfarfod.

 

7.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg ar y materion a godwyd yn y cyfarfod.