Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Anne Jones AS, sef
Aelod newydd o’r Pwyllgor. Croesawodd y Cadeirydd y ddau Aelod newydd, sef
Laura Anne Jones AS, a Lee Waters AS. 1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Tom Giffard AS a Hefin David
AS am eu gwaith fel Aelodau o’r Pwyllgor ers 2021. |
|
(09.30 - 10.30) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru (8) Lesley Griffiths
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Jeremy Miles AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg Ruth Meadows,
Cyfarwyddwr, Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Briff ymchwil Tystiolaeth
ysgrifenedig Llywodraeth Cymru Tystiolaeth
ysgrifenedig Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a
Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ruth Meadows, Cyfarwyddwr
Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu nodyn gydag unrhyw
gwestiynau na chawsant eu cyrraedd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(10.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
a Chyngor Llyfrau Cymru i ofyn am wybodaeth ac eglurder ynghylch materion yn
ymwneud â dosbarthu cyllid gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer cylchgronau. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am wybodaeth ynghylch effaith y toriadau ariannol ar Opera Cenedlaethol
Cymru. |
|
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol:
|
||
Model cyllido cylchgronnau Cyngor Llyfrau Cymru Dogfennau ategol:
|
||
Dyfodol newydd ar gyfer darlledu a chyfathrebu yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Effaith costau cynyddol Dogfennau ategol: |
||
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol:
|
||
Sesiynau craffu cyffredinol Dogfennau ategol:
|
||
Llinell Gwasanaeth Cymraeg HSBC UK Dogfennau ategol: |
||
Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 Dogfennau ategol:
|
||
Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru Dogfennau ategol:
|
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026 Dogfennau ategol: |
||
Diogelu’r casgliadau cenedlaethol Dogfennau ategol: |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.40 - 10.55) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Cyflwyno canfyddiadau ymgysylltu â dinasyddion (2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ganfyddiadau gwaith
ymgysylltu â dinasyddion, a oedd wedi’i aildrefnu ers ei gyfarfod ar 14 Mawrth
2024. |
|
(10.55 - 11.10) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Yn ogystal ag ysgrifennu gyda chwestiynau nas
cyrhaeddwyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ei
barn ar ail-ymuno ag Ewrop Greadigol ac unrhyw raglenni perthnasol eraill yr
Undeb Ewropeaidd. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Arts
Infopoint UK a’r Pwyllgor ar Dwristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, Chwaraeon
a’r Cyfryngau yn Nhŷ’r Oireachtas i wahodd tystiolaeth ysgrifenedig mewn
cysylltiad â’i
ymchwiliad. |
|
(11.10 - 11.20) |
Adroddiad Monitro Cysylltiadau Rhyngwladol Adroddiad Monitro
Cysylltiadau Rhyngwladol – Mai 2024 Argraffiad 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Monitro Cysylltiadau
Rhyngwladol. |
|
(11.20 - 11.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Ystyried gohebiaeth ddrafft mewn ymateb i’r llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a oedd yn gwahodd sylwadau i lywio gwaith craffu yn y dyfodol Gohebiaeth
ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytuno
arni fel y’i drafftiwyd. |
|
(11.30 - 11.45) |
Y diwydiant gemau fideo: Trafodaeth yn dilyn digwyddiad preifat i randdeiliaid ar 2 Mai 2024 Papur i gefnogi
trafodaeth yn dilyn digwyddiad preifat i randdeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried nodyn ysgrifenedig ar
ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu, a phapur ar y camau nesaf posibl mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(11.45 - 12.00) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer haf 2024 (3) Cylch gorchwyl
drafft ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i godi tâl am arddangosfeydd Cynnig am
ymchwiliad i godi tâl am arddangosfeydd Blaenraglen waith
ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cynnig o ran ymchwiliad
i godi tâl am arddangosfeydd a'r Cylch Gorchwyl drafft, a chytunodd arnynt. 10.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y flaenraglen waith
ddrafft ar gyfer gweddill tymor yr haf 2024. |