Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Gymraeg yn y sector addysg bellach a’r sector dysgu seiliedig ar waith, a chefnogaeth i ddysgwyr Cymraeg 16-25 oed. Bydd y Pwyllgor yn archwilio sut y bydd y penderfyniad i ailflaenoriaethu cyllid ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar allu'r sectorau hyn i ddatblygu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr. Bydd hefyd yn edrych ar sut y gallai'r penderfyniad effeithio ar y targedau hirdymor a nodir yn Cymraeg 2050 i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

 

Bydd y Pwyllgor yn trafod materion a fydd yn cynnwys y canlynol:

 

>>>> 

>>>A fydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol y gallu a'r adnoddau i gynnal eu rhaglen waith a'u darpariaeth bresennol;

>>>I ba raddau y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu'r dyraniad ychwanegol o £3.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer y Coleg Cymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar waith datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 yn y dyfodol a chefnogaeth Gymraeg i bobl ifanc;

>>>Archwilio sut y gallai'r penderfyniad effeithio ar nifer y bobl ifanc sy'n dysgu Cymraeg, ac ystyried yr effaith bosibl ar bobl ifanc sy'n dewis dilyn cyrsiau hyfforddi a chyrsiau ôl-16 yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg; a

>>>Deall sut y bydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn y dyfodol ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 yn effeithio ar lwybr a thargedau Cymraeg 2050.

<<< 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/03/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau