Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/01/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Tom Giffard AS ac roedd Samuel Kurtz AS yn bresennol fel dirprwy. Dymunodd y Pwyllgor wellhad buan i Tom Giffard ac roedd yr aelodau’n edrych ymlaen at ei groesawu’n ôl yn fuan.

 

1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Heledd Fychan AS, Carolyn Thomas AS a Samuel Kurtz fuddiannau perthnasol.

 

(09.00-10.00)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Diwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu.

 

(10.00-10.30)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Cysylltiadau rhyngwladol

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Andrew Gwatkin, Director International Relations and Trade, Llywodraeth Cymru

Paula Walsh, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol, Llywodraeth Cymru

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog.

 

3.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu.

 

(10.40-11.40)

4.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Y Gymraeg

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg, Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu.

 

(11.40)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(11.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40-12.00)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y materion a godwyd yn y cyfarfod.

 

(12.00-12.30)

8.

Adolygu amserlen y pwyllgor a’i gylchoedd gwaith

Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i drafod ei ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes y tu allan i’r cyfarfod hwn.

 

5a

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

5b

Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r cyfryngau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

5c

Llythyr gan Amgueddfa Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch rhagor o wybodaeth am ei gwaith

Dogfennau ategol:

5d

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch effaith y Bil Amaethyddiaeth yn y dyfodol ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Dogfennau ategol:

5e

Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn yr ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol

Dogfennau ategol:

5f

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch recriwtio ar gyfer swydd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru

Dogfennau ategol:

5g

Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dilyn y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog

Dogfennau ategol:

5h

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Dogfennau ategol:

5i

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip ynghylch cymhwysedd ar gyfer Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf

Dogfennau ategol:

5j

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol ac Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol

Dogfennau ategol:

5.11

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y Gronfa Adferiad Diwylliannol

Dogfennau ategol: