Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates a’r Athro Zara Quigg.

 

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

(13:30-14:30)

2.

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 4

Anne-Marie Lawrence, Rheolwr Datblygu Cymru, Plan UK

 

Dr Stephen Burrell, Athro Cynorthwyol (Ymchwil), Prifysgol Durham

 

Dr Nathan Eisenstadt, Uwch Gydymaith Ymchwil Er Anrhydedd Prifysgol Caerwysg, Uwch Gydymaith Ymchwil Prifysgol Bryste, Cyfarwyddwr Kindling Transformative Interventions

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

Anne-Marie Lawrence, Rheolwr Datblygu Cymru, Plan UK

 

Dr Stephen Burrell, Athro Cynorthwyol (Ymchwil), Prifysgol Durham

 

 

(14:45-15:45)

3.

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 5

Yr Athro Zara Quigg, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Atal Trais, Prifysgol John Moores Lerpwl

 

Dr Rachel Fenton, Athro Cyswllt Ysgol Gyfraith Prifysgol Caerwysg, Cyfarwyddwr Kindling Transformative Interventions

 

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Dr Rachel Fenton, Athro Cyswllt yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerwysg, a Chyfarwyddwr Kindling Transformative Interventions

 

Dr Nathan Eisenstadt, Uwch Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus, Prifysgol Caerwysg; Uwch Gydymaith Ymchwil, Prifysgol Bryste; a Chyfarwyddwr Kindling  Transformative Interventions

 

 

(15:45)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau ac, mewn sesiwn breifat, mewn perthynas ag Eitem 4.4, cytunwyd y dylid ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip i ofyn am eglurhad pellach ynghylch nifer o bwyntiau a godwyd yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor.

 

4.1

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar Sail Rhyw yn Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch hygyrchedd gwybodaeth

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch gweithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Dogfennau ategol:

4.4

Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “60% - Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid”

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

(15:45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

(15:45- 16:05)

6.

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.

 

(16:05-16:10)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: trafod yr ymatebion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.