Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/04/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant

 

13:30-13:35

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

Mewn perthynas ag Eitem 2.8, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am wybodaeth ychwanegol ynghylch y materion a godwyd.

 

2.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch diogelwch adeiladau.

Dogfennau ategol:

2.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y bwriad i ychwanegu cyrff cyhoeddus newydd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

2.3

Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).

Dogfennau ategol:

2.4

Gohebiaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cwmnïau ynni

Dogfennau ategol:

2.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch adroddiad Archwilio Cymru ar Gynhwysiant Digidol

Dogfennau ategol:

2.6

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol

Dogfennau ategol:

2.7

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at yr Arglwydd Bellamy ynghylch tystiolaeth yn ymwneud â’r system gyfiawnder yng Nghymru

Dogfennau ategol:

2.8

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar brofiadau menywod o’r system cyfiawnder troseddol

Dogfennau ategol:

2.9

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â rhaglen ymgysylltu Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

2.10

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2023-24

Dogfennau ategol:

13:35

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

 

13:35-14:50

4.

Dyled ac effaith costau byw cynyddol: trafod yr adroddiad drafft.

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd i gwblhau’r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.

 

14:50-15:05

5.

Blaenraglen waith: ystyried y dull o ymdrin â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Aelodau’n trafod dull y Pwyllgor o ymdrin â gwaith yn ymwneud â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth ychwanegol.

 

15:05-15:20

6.

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: y dull o ran ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Aelodau’n trafod opsiynau ar gyfer gwaith ymgysylltu ynghylch yr ymchwiliad i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd. 

 

15:20-15:30

7.

Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r adroddiad monitro ar y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.