Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/01/2026 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AS.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Jenny Rathbone AS a Sioned Williams AS ddatganiad o fuddiant perthnasol.

(13:30-14:30)

2.

Mynediad at fwyd iach, maethlon a fforddiadwy: sesiwn dystiolaeth 1

Pearl Costello, Synnwyr Bwyd Cymru

Hannah Gibbs, Sustain

Chloe Masefield, Bwyd Powys (dan ofal Cultivate)

Chris Nottingham, Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent/Cymdeithas Tai Calon

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Pearl Costello, Synnwyr Bwyd Cymru

Hannah Gibbs, Sustain

Chloe Mansfield, Bwyd Powys (dan ofal Cultivate)

Chris Nottingham, Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent/Cymdeithas Tai Calon

 

 

 

 

 

(14:45-16:00)

3.

Mynediad at fwyd iach, maethlon a fforddiadwy: sesiwn dystiolaeth 2

Janet Hayward, Big Bocs Bwyd

Sarah Germain, Fareshare Cymru

Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell

Robbie Davison, Can Cook/Well-Fed

Simon Wright, Cegin y Bobl a Wright’s Food Emporium

 

 

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Janet Hayward, Big Bocs Bwyd

Sarah Germain, Fareshare Cymru

Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell

Robbie Davison, Can Cook/Well-Fed

Simon Wright, Cegin y Bobl a Wright’s Food Emporium

 

(16:00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

O ran eitem 4.5 ar yr agenda, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ailddatgan ei gefnogaeth i sefydlu Arsyllfa Cyfiawnder Troseddol i Gymru.

 

O ran eitem 4.7 ar yr agenda, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ofyn am ragor o eglurhad ar y tocyn croeso.



4.1

Gohebiaeth oddi wrth Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol at y Cadeirydd ynghylch arolwg rhanddeiliaid Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip at y Cadeirydd ynghylch Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor: “Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani!: Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd”

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet, y Trefnydd a'r Prif Chwip at y Cadeirydd ynghylch gwaith craffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth oddi wrth Dr Rob Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru at y Cadeirydd ynglŷn â’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Grŵp Rhyngweinidogol y Pedair Gwlad ar Waith a Phensiynau

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip at y Cadeirydd ynglŷn â thocynnau croeso i geiswyr lloches yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

4.8

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol.

Dogfennau ategol:

(16:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

(16:00-16:15)

6.

Mynediad at fwyd iach, maethlon a fforddiadwy: trafod y dystiolaeth

(16:15-16:20)

7.

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru): trefn ystyried

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 26.21 i amrywio’r drefn ystyried ar gyfer Cyfnod 2 fel a ganlyn:

 

Adrannau 1 i 5, Atodlen 1, Adrannau 6 i 11