Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

 

Inquiry5

 

Lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei ymchwiliad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ystod argyfwng ffoaduriaid mwyaf y byd ers yr Ail Ryfel Byd.

 

Edrychodd y Pwyllgor faint o gymorth sydd ar gael ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a pha mor dda y mae Cymru yn ymateb i’r nifer fawr o bobol sy’n ffoi o Syria oherwydd y rhyfel cartref.

 

Cylch gorchwyl:

 

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • cyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru i ailsefydlu ffoaduriaid drwy Gynllun Llywodraeth y DU ar Adleoli Pobl o Syria sy'n Agored i Niwed; 
  • effeithiolrwydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches;
  • cymorth ac eiriolaeth sydd ar gael i blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yng Nghymru; a'r
  • rôl ac effeithiolrwydd Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod ffoaduriaid a cheisiwyr lloches yn integreiddio yng nghymunedau Cymru.

 

Casglu tystiolaeth

 

Fel rhan o’i waith yn casglu tystiolaeth, cynhaliodd y Pwyllgor ystod o sesiynau tystiolaeth lafar ynghyd ag ymgynghoriad. Gellir gweld amserlen o’r dystiolaeth lafar isod.

 

Addroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru (PDF, 1MB) ym mis Ebrill 2017.

 

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Gwelsom enghreifftiau o arfer da ledled Cymru, ac mae’n amlwg, mewn nifer o ardaloedd ac mewn nifer o ffyrdd, fod gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yn gweithio’n effeithiol i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i addasu i fywyd yn ein cymunedau ac i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy mewn nifer o feysydd i helpu partneriaid cyflawni, gan gynnwys cynnig sylwadau i Lywodraeth y DU, drwy adnewyddu’r cyfeiriad strategol a thrwy gymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith cyflawni.”

 

Mae adroddiad 'Spark' byrrach wedi'i gyhoeddi hefyd a gallwch ei ddarllen yma.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad (PDF, 339.6KB) yn Mehefin 2017, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mehefin 2017.

 

Cadw mewn cysylltiad

 

Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau