Y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Fel rhan o'i
gyfres o ymchwiliadau bach i brofiadau gwahanol grwpiau o bobl yn y system
cyfiawnder troseddol yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol i gynnal sesiynau craffu byr a manwl gyda Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU. Gwahoddwyd aelodau o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, a Phwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad y Senedd a’r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd i gymryd rhan yn y gwaith hwn.
Fel rhan o'r
sesiynau roedd y Pwyllgor yn awyddus i edrych yn fanwl ar:
Faterion
allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad Carchardai
a Dedfrydu yng Nghymru 2023;
Tryloywder ac
Adrodd;
Diogelwch a
diwygio carchardai;
Gweithio ar y cyd
i leihau aildroseddu; a Pharatoadau ar gyfer datganoli cyfiawnder ymhellach.
Bydd y Pwyllgor
hefyd yn ystyried dilyn agweddau ar waith blaenorol yn y gyfres hon gan
gynnwys:
>>>>
>>>Pobl ifanc
ag anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu;
>>>Profiadau
menywod yn y system cyfiawnder troseddol
<<<
Casglu
tystiolaeth
Bydd y Pwyllgor
yn cynnal sesiynau craffu gweinidogol a bydd yn clywed gan:
>>>>
>>>Jane
Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r
Prif Chwip
>>>Yr
Arglwydd Timpson, Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Profiannaeth a Lleihau
Aildroseddu
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/05/2025