Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu

Inquiry3

 

Yn ei gyfarfod ar 31 Mawrth 2025, cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

Derbyniodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol yn 2015 ac mae’n ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Ei nod yw rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac mae wedi’i chynllunio i sicrhau bod camau gweithredu yn diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

 

Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i bennu a chyhoeddi amcanion llesiant er mwyn dangos sut y byddant yn cyflawni’r nodau.

 

Sefydlodd hefyd rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gweithredu fel gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf.

 

I nodi deng mlynedd ers pasio’r Ddeddf, mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn amserol cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar effaith ac effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth.

 

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys ystyried:

>>>> 

>>>i ba raddau y mae amcan arfaethedig y Ddeddf yn cael ei gyflawni; 

unrhyw gamau y dylid eu cymryd i wella effeithiolrwydd y Ddeddf a'r dull o'i gweithredu, gan gynnwys unrhyw faterion drafftio penodol;

a yw’r gofynion adolygu ac adrodd o dan y Ddeddf yn cael eu bodloni;

>>>effeithiolrwydd canllawiau a wnaed o dan y Ddeddf;

>>>i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi bod yn gyfreithiol-rwym ac yn orfodadwy; ac

>>>i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny. 

<<< 

 

Sylwch fod y Pwyllgor yn awyddus i adeiladu ar y corff o lenyddiaeth sy'n bodoli eisoes, ac a ragwelir, ynghylch gweithrediad y Ddeddf yn hytrach na’i ddyblygu. Felly, lle bo hynny'n bosibl, mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried adroddiadau sy'n ofynnol o dan y Ddeddf a mireinio ei ddull gweithredu yn unol ag unrhyw ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

 

Casglu tystiolaeth

Casglodd y Pwyllgor tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn ystod haf a hydref 2025. Casglodd hefyd farn yn uniongyrchol gan ddinasyddion drwy raglen o waith ymgysylltu.

 

Tystiolaeth lafar

Clywodd y Pwyllgor yn dystiolaeth lafar ar y dyddiadau canlynol:

>>>> 

>>>23 Mehefin 2025

>>>30 Mehefin 2025

>>>7 Gorffennaf 2025

>>>10 Tachwedd 2025

<<< 

 

Roedd manylion terfynol pob sesiwn ar gael yn y cyfarfod.

 

Tystiolaeth ysgrifenedig

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig, gyda’r manylion llawn ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion ysgrifenedig oedd 20 Mehefin 2025.

 

Ymgysylltu

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgysylltu. Mae’r wybodaeth lawn am yr holl weithgareddau ymgysylltu ar gael yn y crynodeb o'r gwaith ymgysylltu. Mae fersiwn hawdd ei darllen o’r crynodeb o’r gwaith ymgysylltu hefyd ar gael.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/04/2025

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau