Anabledd a Chyflogaeth

Anabledd a Chyflogaeth

Inquiry5

 

Yn ei gyfarfod ar 5 Mehefin 2023, cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnal ymchwiliad i’r bwlch cyflogaeth a chyflogau i bobl anabl. Roedd yr ymchwiliad yn archwilio pa gynnydd sydd wedi'i wneud a beth arall y gellid ei wneud i leihau a dileu rhwystrau i gyflogaeth y mae pobl anabl yn eu hwynebu

 

Mae anabledd wedi’i ddiffinio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a thymor hir ar allu rhywun i gyflawni gweithgareddau bob dydd. At ddiben yr ymchwiliad hwn, mae’r diffiniad hwn yn cwmpasu anhwylderau meddygol, anableddau dysgu, niwrowahaniaeth a chyflyrau eraill.

 

Cylch gorchwyl

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad oedd i ystyried:

>>>> 

>>>Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r argymhellion a nodir yn adroddiad 'Drws ar Glo' a lleihau a dileu'r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl sydd am gael mynediad at farchnad lafur Cymru. Pam mae wedi bod mor anodd gwneud cynnydd o ran lleihau’r bwlch cyflogaeth a chyflogau i bobl anabl.

>>>Sut mae'r model cymdeithasol o anabledd yn cael ei ddefnyddio i danategu arferion cyflogaeth a recriwtio, a pha rwystrau sy'n parhau i fodoli ar draws y gymdeithas sy'n effeithio ar fynediad at waith (h.y. trafnidiaeth, agweddau).

>>>Pa mor effeithiol y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru (e.e. y rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a phrentisiaethau) wedi bod o ran lleihau rhwystrau i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, gan gynnwys i ba raddau y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn ategu / dyblygu / tanseilio rhai Llywodraeth y DU.

>>>A yw pobl anabl yn cael mynediad at brentisiaethau ac a oes angen unrhyw gymorth pellach i sicrhau bod cynlluniau'n gynhwysol.

>>>Pa fesurau polisi pellach sydd eu hangen i gefnogi pobl anabl, pobl ifanc anabl a chyflogwyr i gynyddu cyfraddau cyfranogiad a'r hyn y gellir ei ddysgu o ardaloedd eraill.

>>>Pa weithredoedd fyddai’n cefnogi'r rhai nad ydynt yn gallu gweithio ar hyn o bryd i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddol (a allai arwain at gyfleoedd gwaith yn y dyfodol).

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig oedd 9 Medi 2024. Gallwch weld y cyflwyniadau ysgrifenedig a ddaeth i law ar dudalen yr ymgynghoriad

 

Casglwyd tystiolaeth lafar gan amrywiaeth o dystion yn ystod tymor yr hydref 2024, ac ar 25 Tachwedd 2024 cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

 

Fe wnaeth y tystion a ganlyn roi tystiolaeth lafar:

 

Dyddiad

Enw a Sefydliad

30 Medi 2024

Yr Athro Debbie Foster,
Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Melanie Jones,
Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Victoria Wass,
Prifysgol Caerdydd

Ruth Nortey,
Prifysgol Caerdydd

Dr Marc Bryan,
Prifysgol Sheffield

7 Hydref 2024

Fflur Elin, Pennaeth Materion Allanol – Cymru,
Ffederasiwn Busnesau Bach

Ruth Coombs, Pennaeth Cymru,
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Cymru,
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Vivienne Buckley, Pennaeth Coleg Penybont,
Colegau Cymru 

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol,
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

14 Hydref 2024

Rhian Davies, Prif Weithredwr,
Anabledd Cymru

Miranda Evans, Rheolwr Busnes a Phartneriaethau,
Anabledd Cymru

Gerraint Jones-Griffiths – Llysgennad Arweiniol Ymgysylltu i Newid,
Anabledd Dysgu Cymru

Angela Kenvyn – Rheolwr Prosiect,
Anabledd Dysgu Cymru

Dr Elisa Vigna – Cymrawd Ymchwil, Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl,
 Prifysgol Caerdydd

21 Hydref 2024

Daniel Biddle, Eiriolwr dros Hawliau Pobl Anabl

Nerys Bourne, Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau,
Gyrfa Cymru

Emma Benger, Rheolwr Prosiect Cymru’n Gweithio,
Gyrfa Cymru

Terry Mills, Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl,
Llywodraeth Cymru

Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol,
Cyflogaeth â Chymorth ELITE

Arthur Beechey, Prif Swyddog Gweithredol
Hyfforddiant a Chymorth Cyflogaeth Agoriad

11 Tachwedd 2024

Rhianydd Williams, Swyddog Cydraddoldeb a Pholisi,
TUC Cymru

Angharad Dean

Dee Montague-Coast,
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Isabel Linton,
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Rosie Cribb,
Cwmnïau Cymdeithasol Cymru

Richard Wellfoot,
Sefydliad y Deillion Merthyr

 

25 Tachwedd 2024

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip,
 Llywodraeth Cymru

Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru

Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol,
Llywodraeth Cymru

Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau,
Llywodraeth Cymru

Stephen Layne, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwaith Teg,
Llywodraeth Cymru

 

Ymgysylltu

Fel rhan o'r ymchwiliad, buom yn ymgysylltu â phobl anabl i ddysgu am eu profiadau. Cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol. Roedd y grwpiau ffocws hefyd yn cynnwys nifer bach a gymerodd ran yn rhinwedd eu proffesiwn yn gweithio gyda phobl anabl. Cyhoeddwyd adroddiad interim a chrynodeb ymgysylltu.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 6 Mawrth 2025.

 

Fformatau eraill

 

Mae’r adroddiad a’r crynodeb ar gael ar fformat ar y we a Microsoft Word. Mae’r lincs i’r fersiynau hyn ar gael isod. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r opsiynau hygyrchedd yn y fersiwn Microsoft Word ar gael mewn dogfen eglurhaol.

 

Adroddiad y Pwyllgor:

 

Fersiwn ar y we

Fersiwn Microsoft Word

 

 

Crynodeb:

 

Fersiwn ar y we

Fersiwn Microsoft Word

 

Adroddiad hawdd ei darllen:

Fersiwn hawdd ei darllen

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad ar 17 Ebrill 2025.

 

Mae’r ymateb hefyd ar gael mewn dogfen Word

 

Ar 23 Mai ysgrifennodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at Syr Stephen Timms AS, y Gweinidog Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, ac at y Wir Anrhydeddus Liz Kendall AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch Cymorth ar gyfer Cyflogi Pobl Anabl, a diwygio lles.

 

Ar 11 Mehefin 2025 cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn.

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/07/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau