Mynediad at fwyd iach, maethlon a fforddiadwy
Mynediad at fwyd iach, maethlon a fforddiadwy
Dydd Llun 13 Hydref
2025, cytunodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnal ymchwiliad byr ar fynediad
at fwyd. Yn benodol, mae'r Pwyllgor am wybod sut y gellir sicrhau bod bwyd
iach, maethlon a fforddiadwy ar gael i bawb.
Yn flaenorol,
edrychodd y Pwyllgor ar dlodi bwyd fel rhan o'i ymchwiliad i ddyled a chostau
byw cynyddol, a hynny yn 2023. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i
"fabwysiadu dull mwy cynaliadwy ac ataliol o fynd i’r afael â thlodi bwyd
drwy gefnogi mentrau cymdeithasol sy’n gweithredu i gyflawni nodau ehangach
megis gwella sgiliau coginio mewn cymunedau lleol a darparu prydau iach".
Cylch gorchwyl
Y cylch gorchwyl
ar gyfer yr ymchwiliad yw:
>>>>
>>>I ba
raddau y mae dull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â thlodi bwyd yn cefnogi
darpariaeth bwyd iach a maethlon i bawb, a pha gamau y gallai eu cymryd i
gyflawni hyn?
>>>Beth
yw'r prif rwystrau i fynd i’r afael â thlodi bwyd mewn ffordd gynaliadwy ac
ataliol sy'n darparu bwyd iach a maethlon i bawb, a sut y gellir goresgyn y
rhwystrau hyn?
>>>Pa
enghreifftiau o arferion da sy'n llwyddo i fynd i’r afael â thlodi bwyd drwy
gefnogi darpariaeth bwyd iach a maethlon? Sut y dylai Llywodraeth Cymru a’i
phartneriaid gefnogi'r arferion da hyn, a helpu i’w lledaenu a’u datblygu?
>>>A yw
dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi bwyd yn cydbwyso'n ddigonol yr
angen am gefnogaeth frys gyda dull ataliol sy'n darparu atebion cynaliadwy a
hirdymor? Os nad yw, sut y dylai wneud hyn?
<<<
Cytunodd y
Pwyllgor i gasglu tystiolaeth drwy gynnal ymgynghoriad targedig, drwy sesiynau
tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol a thrwy ymgysylltu â sefydliadau
ac unigolion sydd â phrofiadau uniongyrchol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2025