Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/04/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o
fuddiant |
|
13:30-13:35 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau. Mewn perthynas ag Eitem 2.8, cytunodd yr Aelodau i
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am wybodaeth ychwanegol ynghylch y materion a
godwyd. |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch diogelwch adeiladau. Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y bwriad i ychwanegu cyrff cyhoeddus newydd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS). Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cwmnïau ynni Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch adroddiad Archwilio Cymru ar Gynhwysiant Digidol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at yr Arglwydd Bellamy ynghylch tystiolaeth yn ymwneud â’r system gyfiawnder yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar brofiadau menywod o’r system cyfiawnder troseddol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â rhaglen ymgysylltu Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
13:35 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau y cynnig. |
|
13:35-14:50 |
Dyled ac effaith costau byw cynyddol: trafod yr adroddiad drafft. Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd i
gwblhau’r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
14:50-15:05 |
Blaenraglen waith: ystyried y dull o ymdrin â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Aelodau’n trafod dull y Pwyllgor o ymdrin â gwaith
yn ymwneud â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth ychwanegol. |
|
15:05-15:20 |
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: y dull o ran ymgysylltu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Aelodau’n trafod opsiynau ar gyfer gwaith ymgysylltu
ynghylch yr ymchwiliad i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y
cyhoedd. |
|
15:20-15:30 |
Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: adroddiad monitro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r adroddiad monitro ar y Cynllun
Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. |