Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/03/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Luke
Fletcher AS ar gyfer eitem 3. Dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei ran. 1.3
Gwnaeth Luke Fletcher AS a Llyr Gruffydd
AS ddatgan eu bod yn aelodau o Gymdeithas Filfeddygol Prydain. Gwnaeth Luke
Fletcher AS ddatgan ei fod yn aelod o is-grwpiau o Fwrdd Pontio Tata Steel UK. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
Y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ffioedd a Thaliadau) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: |
||
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: |
||
Ardaloedd Draenio Dogfennau ategol:
|
||
Rheolaethau Ffiniau Dogfennau ategol: |
||
Dyfodol Dur Cymru Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024 Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ynni niwclear ac economi Cymru Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.40) |
Sesiwn Graffu Gyffredinol ar Waith y Gweinidog: Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Llywodraeth
Cymru Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Richard Irvine,
Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r
Trefnydd. 3.2 Cytunodd y
Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor, gan ddarparu nodyn ar adroddiad Colin
Birch – adroddiad a adolygwyd gan gymheiriaid – ar effaith y broses o gael
gwared ar fywyd gwyllt heintiedig ar achosion o TB mewn gwartheg yn Lloegr. |
|
(10.50-12.00) |
Sesiwn Graffu Gyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi Vaughan Gething
AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru Jo Salway,
Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg, Llywodraeth
Cymru Helen John,
Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen Rheolaethau'r Ffin, Llywodraeth Cymru Tom Smithson,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi. 4.2 Cytunodd y
Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu ffigurau ynghylch nifer y bobl
sy’n manteisio ar gyfleodd i ddilyn prentisiaethau, a hynny yng nghyd-destun
rhaglenni mis Ionawr. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(12.00-12.15) |
Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at
yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch yr
ymgysylltu gweinidogol sy’n digwydd â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â
materion datganoledig. |