Ynni niwclear ac economi Cymru
Ynni niwclear ac economi Cymru
Inquiry4
Sefydlodd y
Senedd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i graffu ar bolisi a deddfwriaeth,
ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn
yn cynnwys busnes, datblygiad economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol,
amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymchwiliad undydd i ynni niwclear ac economi Cymru ar 26
Hydref 2023.
Cylch gorchwyl
Yn benodol,
ystyriodd y Pwyllgor:
>>>>
>>>Pa
effaith economaidd bosibl y gallai datblygiadau niwclear newydd yng ngogledd
Cymru ei chael ar yr economi ranbarthol?
>>>Beth
y gellir ei wneud i sicrhau bod unrhyw brosiectau niwclear newydd yn rhoi’r hwb
mwyaf posibl i gyflogaeth leol a chadwyni cyflenwi lleol neu rai a leolir yng
Nghymru?
>>>Beth
yw’r heriau posibl yn sgil y prinder sgiliau presennol a sut y gellir goresgyn
yr heriau hyn?
<<<
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Ynni niwclear ac
economi Cymru ar 21 Chwefror 2024 (PDF 1,058KB)
Ymateb Llywodraeth
Cymru - 09 Ebrill 2024 (PDF 272KB)
Ymateb
Llywodraeth y Du – 10 Ebrill 2024 (PDF 147KB) (Saesneg yn unig)
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2023
Dogfennau