Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/12/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. |
|
(09.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Weinidog yr Economi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
(09.30-11.00) |
Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi Vaughan Gething
AS, Gweinidog yr Economi Sioned Evans,
Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau Duncan Hamer,
Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau Andrew Gwatkin, Cyfarwyddwr,
Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Helen John,
Cyfarwyddwr y Rhaglen Mesurau Rheoli Ffiniau Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth
i'r Pwyllgor am y trafodaethau sy'n digwydd gyda phobl ifanc, yn dilyn
cyhoeddi’r adroddiad blynyddol gwarant pobl ifanc yn y flwyddyn newydd. 3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar
brentisiaethau gradd a’u datblygiad yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi'r Gyllideb
Ddrafft. 3.4 Cytunodd y Gweinidog i rannu â’r Pwyllgor ymateb
Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Llywodraeth y DU ar y cynllun rhyddhad ynni i fusnesau, pan fydd ar gael. 3.5 Cytunodd y Gweinidog i ymgysylltu â’r Pwyllgor mewn
sgwrs tymor hwy am ddyfodol ardrethi busnes, yn dilyn y Gyllideb Ddrafft. 3.6 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Cadeirydd i
anfon cwestiynau am ymchwil ac arloesi at y Gweinidog ar gyfer ymateb
ysgrifenedig. |
|
(11.05-12.15) |
Y gost o wneud busnes Gwyneth
Sweatman, Pennaeth y Cyfryngau a Chyfathrebu (Cymru), Ffederasiwn y Busnesau
Bach David
Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru, UK Hospitality Leighton
Jenkins, Pennaeth Polisi - Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Sara Jones,
Pennaeth yng Nghymru, Consortiwm Manwerthu Cymru Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Ffederasiwn
Busnesau Bach, UKHospitality Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a
Chonsortiwm Manwerthu Cymru. 4.2 Cytunodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag: - adolygiad cyllideb frys Llywodraeth yr Alban gan
gynnwys argymhellion ei phanel o arbenigwyr economaidd; - ei waith gyda Banc Datblygu Cymru a pha mor aml y mae
busnesau sy’n aelodau ohonynt yn cael mynediad at gymorth y banc. 4.3 Cytunodd y Ffederasiwn Busnesau Bach i ddarparu
rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun rhyddhad biliau ynni'n gweithredu ar
gyfer cyflenwyr ynni annomestig. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod cyfan ar 14 Rhagfyr 2022. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15-12.20) |
Preifat Trafod
tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn dystiolaeth flaenorol. |
|
(12.20-12.25) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor - y rhaglen ddeddfwriaethol Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen craffu deddfwriaethol
cyn cytuno arni. |