Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2
O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Samuel Kurtz
AS, Andrew RT Davies AS a Huw Irranca-Davies AS fuddiant. |
|
09.30 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
|
Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant Dogfennau ategol: |
||
|
Dyfodol Dur yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
|
Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol: |
||
|
Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod Dogfennau ategol: |
||
|
Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm Dogfennau ategol: |
||
|
Y Bwlch Cyflogaeth Anabledd a’r system addysg Dogfennau ategol: |
||
|
Sesiwn Graffu Flynyddol Banc Datblygu Cymru - 20 Tachwedd 2024: Gwaith dilynol Dogfennau ategol: |
||
09.30 - 11.00 |
Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Huw
Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Gian Marco Currado,
Cyfarwyddwr - Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Mark Alexander,
Dirprwy Gyfarwyddwr - Uned Diwygio Rheolaeth Tir, Llywodraeth Cymru Naomi
Matthiessen, Dirprwy Gyfarwyddwr - Tirweddau, Natur a Choedwigaeth, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth
Cymru, ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. |
|
11.00 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
11.00 - 11.10 |
Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3. 5.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog gyda nifer o gwestiynau
dilynol, gan ofyn am ragor o wybodaeth am rai meysydd diddordeb penodol a
godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
11.10 - 11.15 |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Cyflogaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor nodyn cyngor cyfreithiol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a
chytunodd ar ei farn cyn drafftio ei adroddiad ar y materion polisi. 6.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad, fel y Pwyllgor sy'n arwain ar faterion cyfansoddiadol, gan fynegi
ei bryderon ynghylch rhai pwerau cyfreithiol penodol a roddwyd i Lywodraeth y
DU a gynhwysir yn y Bil. |
|
11.15 - 11.25 |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad) Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor nodyn cyngor a briff cyfreithiol y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol, a chytunodd ar ei ddull o ymdrin â’i adroddiad. |
|
11.25 - 11.30 |
Ymchwiliad Hybu Cig Cymru: Trafod y papur Cwmpas a Dull Cofnodion: 8.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar gwmpas a dull ei ymchwiliad newydd i Hybu Cig Cymru, a chytunodd i
symud ymlaen gyda sesiynau tystiolaeth lafar yn yr hanner tymor nesaf. |
|
11.30 - 12.00 |
Yr Economi Sylfaenol: Trafod y materion allweddol Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor y papur briffio materion allweddol a chytunodd ar y sail i ddechrau
drafftio ei adroddiad. |
|
12.00 - 12.30 |
Yr Economi Werdd: Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 10.1 Dechreuodd y
Pwyllgor drafod ei adroddiad drafft, a chytunodd i ailedrych ar yr eitem hon yn
ei gyfarfod nesaf, yn dilyn newidiadau i'r argymhellion yn yr adroddiad. |
PDF 143 KB