Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Mae'r Pwyllgor Busnes yn adolygu prosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod.

 

Y broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus

Un o brif gyfrifoldebau’r Senedd yw deddfu ar gyfer Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy ystyried a phasio cyfreithiau arfaethedig. Yr enw ar y cyfreithiau arfaethedig yw Biliau.

 

Mae rheolau ar gyfer y ffordd y mae’r Senedd yn ystyried ac yn pasio Biliau. Mae rhai o'r rheolau wedi’u cynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ac eraill wedi eu cytuno gan y Senedd yn ei Rheolau Sefydlog. Mae canllawiau ffurfiol ac anffurfiol hefyd ar gyfer Aelodau, staff a'r cyhoedd, a sefydlwyd ffyrdd o weithio a chonfensiynau y cytunwyd arnynt.

 

Y broses ar gyfer Biliau Aelod

Mae’r rhan fwyaf o Filiau’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ond mae’r rheolau hefyd yn caniatáu i Gomisiwn y Senedd, pwyllgorau’r Senedd ac Aelodau unigol gyflwyno Biliau.

 

Cyn cael cyflwyno Biliau, rhaid i Aelodau unigol gael eu dewis mewn un o'r balotau ar gyfer Biliau Aelod y mae’n rhaid i'r Llywydd eu cynnal o bryd i'w gilydd. Bydd gan Aelod sydd wedi’i ddewis mewn balot 25 diwrnod gwaith i gael cytundeb y Senedd i gyflwyno ei Fil arfaethedig. Os bydd y Senedd yn cytuno, yna bydd gan yr Aelod 13 mis i gyflwyno ei Fil.

 

Adolygiadau’r Pwyllgor Busnes

Mae'r Pwyllgor Busnes yn adolygu prosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod i nodi beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella.

 

Cylch gorchwyl yr adolygiad yw:

>>>> 

>>>Archwilio opsiynau ar gyfer gwella gweithrediad ac effeithiolrwydd gwaith y Senedd wrth graffu ar Filiau Cyhoeddus, a gyflwynir yn unol â Rheol Sefydlog 26, drwy adolygu profiadau yn y Chweched Senedd (a Seneddau blaenorol lle y bo’n berthnasol), gan gynnwys y canlynol:

>*>*>*

***Gweithdrefnau, arferion, confensiynau, diwylliant a ffyrdd o weithio perthnasol.

***Y profiad o ddeddfu mewn amgylchedd hybrid.

<*<*<*

>>>Archwilio opsiynau ar gyfer gwella gweithrediad ac effeithiolrwydd proses y Senedd ar gyfer Biliau Aelod, drwy gymryd y camau a ganlyn:

>*>*>*

***Adolygu profiadau yn y Chweched Senedd (a Seneddau blaenorol lle y bo’n berthnasol), gan gynnwys gweithdrefnau, arferion, confensiynau, diwylliant a ffyrdd o weithio perthnasol cyn cyflwyno Bil Aelod (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r ffordd y caiff Aelodau eu dewis ar gyfer y cyfle i gynnig Bil, y broses ar gyfer cael ‘caniatâd i gyflwyno’, a lefel y wybodaeth y mae'n ofynnol i Aelodau ei darparu ar y camau hyn).

***Nodi unrhyw oblygiadau posibl i’r broses ar gyfer Bil Aelod sy’n deillio o’r cynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd.

***Nodi materion sy’n ymwneud â’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i Aelodau yn ystod y broses ar gyfer Bil Aelod a’u codi gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau perthnasol, gan gynnwys Comisiwn y Senedd a Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

<*<*<*

<<<< 

Casglu tystiolaeth

Cam 1

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 20 Ionawr 2025. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 28 Mawrth 2025 ac mae pob ymateb wedi'i gyhoeddi. Yn ogystal â'r alwad am dystiolaeth ysgrifenedig:

>>>> 

>>>Cynhaliodd y Pwyllgor gyfweliadau a thrafodaethau grŵp rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2025 gyda’r canlynol:

>*>*>*

***Cyn-Aelodau ac Aelodau presennol o’r Senedd sydd â phrofiad o gael eu dewis mewn balot Bil Aelod.

***Swyddogion Comisiwn y Senedd sydd â phrofiad o fod yn rhan o dimau Bil Aelod.

***Aelodau presennol o Dŷr Cyffredin, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban sydd â phrofiad o ymgysylltu â phroses Bil Aelod eu deddfwrfa.

<*<*<*

>>>Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn galw heibio ar 11 Mawrth 2025 i Aelodau presennol o’r Senedd rannu eu barn ar y broses graffu ddeddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus, a Biliau Aelod.

>>>Gwahoddodd y Pwyllgor, ar 31 Mawrth 2025, Fforwm y Cadeiryddion i rannu ei farn ar y broses graffu ddeddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus, a Biliau Aelod.

<<<< 

 

Cam 2

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod y cam cyntaf ac unrhyw argymhellion perthnasol a wnaed gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol, efallai y bydd y Pwyllgor Busnes yn ceisio rhagor o dystiolaeth wedi’i thargedu i’w helpu i ddatblygu cynigion.

 

Ym mis Hydref 2025, ysgrifennodd y Pwyllgor Busnes at bwyllgorau’r Senedd a fu’n craffu ar Filiau a gyflwynwyd ym mlwyddyn olaf y Chweched Senedd, sef Biliau y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiynau ohonynt cyn eu cyflwyno’n ffurfiol. Daeth ymatebion i law gan y canlynol:

>>>> 

>>>Y Pwyllgor Cyllid

>>>Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau

>>>Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

>>>Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

>>>Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

<<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2025

Dogfennau

Ymgynghoriadau