Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm

Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm

Inquiry5

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i’r Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm.

 

Cylch Gorchwyl

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor:

>>>> 

>>>Achosion: y ffactorau sy’n cyfrannu at ddifrifoldeb y difrod.

>>>Cyfathrebu: y dull o gyfathrebu yn ystod ac ar ôl y storm, gan gynnwys cyfathrebu gyda defnyddwyr y porthladd, cymunedau a busnesau a effeithiwyd gan gau’r porthladd a hefyd rhwng llywodraethau.

>>>Adfer: cyflymder yr ymateb o ran asesu ac atgyweirio’r difrod, gan gynnwys y cymorth a ddarparwyd gan y Llywodraeth.

>>>Effaith: effaith y cau, yn ogystal â maint ac effeithiolrwydd y camau sy’n cael eu cymryd i liniaru’r effaith.

<<< 

 

Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm: Canfyddiadau cychwynnol ar 3 Ebrill 2024 (PDF 2.31MB).

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 195KB)

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Gorffennaf 2025.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2025

Dogfennau