Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(09.30)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr at Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

2.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.7

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.8

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

(09.30-11.00)

3.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Sioned Evans, Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau

Andrew Gwatkin, Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach

Helen John, Cyfarwyddwr y Rhaglen Mesurau Rheoli Ffiniau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y trafodaethau sy'n digwydd gyda phobl ifanc, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol gwarant pobl ifanc yn y flwyddyn newydd. 

3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar brentisiaethau gradd a’u datblygiad yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft.

3.4 Cytunodd y Gweinidog i rannu â’r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar y cynllun rhyddhad ynni i fusnesau, pan fydd ar gael.

3.5 Cytunodd y Gweinidog i ymgysylltu â’r Pwyllgor mewn sgwrs tymor hwy am ddyfodol ardrethi busnes, yn dilyn y Gyllideb Ddrafft. 

3.6 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Cadeirydd i anfon cwestiynau am ymchwil ac arloesi at y Gweinidog ar gyfer ymateb ysgrifenedig.

 

 

 

(11.05-12.15)

4.

Y gost o wneud busnes

Gwyneth Sweatman, Pennaeth y Cyfryngau a Chyfathrebu (Cymru), Ffederasiwn y Busnesau Bach

David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru, UK Hospitality

Leighton Jenkins, Pennaeth Polisi - Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain

Sara Jones, Pennaeth yng Nghymru, Consortiwm Manwerthu Cymru

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, UKHospitality Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Cymru. 

4.2 Cytunodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag:

- adolygiad cyllideb frys Llywodraeth yr Alban gan gynnwys argymhellion ei phanel o arbenigwyr economaidd;

- ei waith gyda Banc Datblygu Cymru a pha mor aml y mae busnesau sy’n aelodau ohonynt yn cael mynediad at gymorth y banc.

4.3 Cytunodd y Ffederasiwn Busnesau Bach i ddarparu rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun rhyddhad biliau ynni'n gweithredu ar gyfer cyflenwyr ynni annomestig.

 

 

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod cyfan ar 14 Rhagfyr 2022.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15-12.20)

6.

Preifat

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

 

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol.

 

(12.20-12.25)

7.

Blaenraglen waith y Pwyllgor - y rhaglen ddeddfwriaethol

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen craffu deddfwriaethol cyn cytuno arni.