Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o
fuddiant |
|
(09.30-10.30) |
Canserau gynaecolegol: Panel 5 - Iechyd Cyhoeddus Cymru Yr Athro Fu-Meng
Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu a Sgrinio Iechyd a Chyfarwyddwr Meddygol
Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Sharon
Hillier, Cyfarwyddwr Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Iechyd Cyhoeddus Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5 a 8 y cyfarfod hwn Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.30-10.40) |
Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog i gael eglurhad ar faterion a godwyd yn yr adroddiad. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i godi unrhyw bryderon pellach
gyda Chonffederasiwn GIG Cymru yn y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2023 ac yn ystod
y sesiwn graffu gyda’r Gweinidog yn yr hydref. |
|
(10.40-10.50) |
Deintyddiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor gyda Jane Dodds AS ymateb y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor. |
|
(11.05-12.05) |
Canserau gynaecolegol: Panel 6 Sadie Jones,
Llawfeddyg Oncoleg Gynaecoleg Ymgynghorol Canolfan Ymchwil Canser Cymru Yr Athro Iolo
Doull, Grŵp
Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan Andy Glyde,
Cancer Research UK Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ganolfan Ymchwil
Canser Cymru, gan Grŵp Strategaeth
Meddyginiaethau Cymru a Cancer Research UK. |
|
(12.05) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ynghylch canserau gynaecolegol Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch canserau gynaecolegol (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch hygyrchedd gwybodaeth iechyd cyhoeddus allweddol Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch hygyrchedd gwybodaeth iechyd cyhoeddus allweddol Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at Bwyllgorau'r Senedd ynghylch rhaglen Fframweithiau Cyffredin y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â'r UE) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â'r UE) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â'r UE) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd i atal hunanladdiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi ynghylch Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Brif Swyddog Nyrsio Cymru ynghylch Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr oddi wrth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ynghylch ymgynghoriad yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer rheoleiddio cymdeithion anesthesia a meddygon cyswllt (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.12 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan RNIB Cymru ynghylch cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch amgylchedd bwyd iachach yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(12.05-12.15) |
Canserau gynaecolegol: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |