Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Inquiry2

 

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

 

Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl, mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn rhwystr triphlyg sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl o wahanol rannau o'r boblogaeth:

 

>>>> 

>>>Mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg anghymesur o iechyd meddwl gwael. Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas.

>>>Gall grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael wynebu’r anawsterau mwyaf o ran mynediad at wasanaethau.

>>>Lle mae pobl yn cael cefnogaeth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth.

<<< 

 

Roedd yr anghydraddoldebau hyn yn bodoli cyn pandemig COVID-19, ond mae'r pandemig wedi eu gwaethygu.

 

Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?

 

Yn dilyn cam cyntaf y broses o gasglu tystiolaeth (mae rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnaed hyd yma i’w gweld isod), bydd y Pwyllgor yn archwilio pedair thema allweddol sydd wedi dod i’r amlwg mewn mwy o fanylder:

 

>>>> 

>>>Iechyd meddwl a chymdeithas: penderfynyddion ehangach iechyd meddwl, a rôl cymdeithas a chymunedau wrth hybu a chefnogi iechyd meddwl.

>>>Atebion cymunedol: rôl cymunedau wrth hybu a chefnogi iechyd meddwl, a phresgripsiynu cymdeithasol.

>>>Effaith anghydraddoldebau iechyd meddwl ar bobl sydd â chyflyrau niwroamrywiol: Rydym wedi clywed pryderon sylweddol am y grŵp hwn yn y dystiolaeth yr ydym wedii chasglu hyd yn hyn. Mae hwn hefyd yn grŵp amrywiol, a gall llawer ohonynt hefyd brofi anghydraddoldebau sy'n ymwneud â'u nodweddion eraill. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall rhai o'r rhwystrau a brofir gan y grŵp hwnfel diffyg gwasanaethau cydgysylltiedig, ymwybyddiaeth a hyfforddiant cyfyngedig, a chysgodi diagnostiggael eu profi gan grwpiau a chymunedau eraill hefyd. Felly, bydd edrych ar brofiad pobl sydd â chyflyrau niwroamrywiol hefyd yn ein helpu i archwilio themâu ehangach sy'n effeithio ar grwpiau eraill.

>>>Rôl y gweithlu gofal iechyd a’r gweithlu ehangach: gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chydraddoldeb ar draws y gweithlu cyfan, hyfforddiant, gweithio cydgysylltiedig o fewn y gwasanaeth iechyd a chyda sefydliadau eraill, a rôl meddygon teulu fel 'drws ffrynt' i wasanaethau iechyd meddwl

<<< 

 

Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar y themâu hyn drwy amrywiaeth o fecanweithiau, gan gynnwys tystiolaeth lafar ffurfiol, ymweliadau a gweithgarwch ymgysylltu pellach. Bydd hyn yn ein helpu i glywed amrywiaeth eang o leisiau, gan gynnwys pobl ag arbenigedd a phrofiad byw a phroffesiynol o'r materion yr ydym yn eu hystyried.

 

Gwaith a wnaed hyd yma

 

Roedd cam cyntaf yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y cwestiynau a ganlyn:

 

 

>>>> 

>>>Pa grwpiau o bobl y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio'n anghymesur arnynt yng Nghymru? Pa ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd meddwl gwaeth i’r grwpiau hyn?

>>>I’r grwpiau a nodwyd, beth yw'r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl? Pa mor effeithiol y gall gwasanaethau presennol fodloni eu hanghenion, a sut y gellid gwella eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl?

>>>I ba raddau mae polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion iechyd meddwl y grwpiau hyn ac yn ceisio mynd i’r afael â hwy? Ble mae'r bylchau polisi?

>>>Pa gamau pellach sydd angen eu cymryd, gan bwy/ym mhle, i wella iechyd meddwl a chanlyniadau’r grwpiau o bobl a nodwyd ac er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru?

<<< 

 

Er mwyn archwilio’r materion hyn, mae’r Pwyllgor wedi cymryd y camau a ganlyn:

 

>>>> 

>>>Cyhoeddi galwad ysgrifenedig am dystiolaeth rhwng 10 Ionawr a 24 Chwefror 2022. Cawsom dros 90 o ymatebion.

>>>Cynnal - Cynnal cyfres o grwpiau ffocws yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2022 gyda phobl sydd wedi cael profiadau byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl.

>>>Cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol ar 24 Mawrth 2022, 4 Mai a 19 Mai.

<<< 

 

Gallwch ddarllen rhagor am ein gwaith hyd yn hyn ar flog y Senedd.


Cymorth a chefnogaeth

 

Os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch, mae llinell gymorth iechyd meddwl C.A.L.L ar gyfer Cymru yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol, a chyfeirio at wasanaethau lleol:

 

Ffoniwch Rhadffôn 0800 132 737 unrhyw bryd 24 awyr y dydd, neu anfonwch neges destun HELP i 81066.

Gwefan: https://www.callhelpline.org.uk/DefaultW.asp?

 

Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi, neu angen siarad â rhywun neu’n ystyried hunanladdiad, gallwch gysylltu â’r Samariaid:

Ffoniwch Rhadffon 116 123 unrhyw bryd 24 awr y dydd o unrhyw ffôn.

Llinell Gymorth Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

E-bost: jo@samaritans.org

Gwefan: Samaritans Cymru

 

Gallwch gael gwybodaeth hefyd am adnoddau iechyd meddwl eraill a ffynonellau cefnogaeth yn  ffeithlen cymorth iechyd meddwl Ymchwil y Senedd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/01/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau