Canserau gynaecolegol

Canserau gynaecolegol

Inquiry4

 

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar brofiadau menywod sydd â symptomau canser gynaecolegol, o ran sut mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt ac yn eu trin, a sut mae gwasanaethau yn grymuso menywod sydd wedi cael diagnosis o ganser gynaecolegol ac yn gofalu amdanynt (i sicrhau y caiff eu hanghenion corfforol, eu hanghenion seicolegol a’u hanghenion ymarferol eu diwallu).

 

Adroddiad yr ymchwiliad

 

Ar 6 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad, Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. Hefyd, cyhoeddodd y Pwyllgor grynodeb o’r adroddiad a datganiad i’r wasg cysylltiedig.

 

Ar 8 Mawrth 2024, gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor.

 

Gwybodaeth am yr ymchwiliad

 

Yn benodol, dyma’r hyn a ystyriwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor:

>>>> 

>>>Y wybodaeth sydd ar gael, a’r ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ar gyfer canserau gynaecolegol ar hyd cwrs bywyd, a'r symptomau sy'n gysylltiedig â chanserau gynaecolegol.

>>>Y rhwystrau rhag cael diagnosis, fel symptomau'n cael eu diystyru neu eu drysu â chyflyrau eraill.

>>>A yw menywod yn teimlo bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt a bod eu symptomau’n cael eu cymryd o ddifrif.

>>>Brechu HPV a mynediad at wasanaethau sgrinio amserol, gan gynnwys ystyried yr anghydraddoldebau a’r rhwystrau sy’n bodoli o ran nifer y gwahanol grwpiau o fenywod a merched sy’n manteisio arnynt.

>>>Adfer gwasanaethau diagnostig a sgrinio y GIG, yn benodol lefel y capasiti ychwanegol a ddarperir er mwyn i wasanaethau adfer o effaith y pandemig COVID-19.

>>>Blaenoriaethu llwybrau ar gyfer canserau gynaecolegol fel rhan o adferiad y GIG, gan gynnwys sut mae rhestrau aros canser gynaecolegol yn cymharu â chanserau ac arbenigeddau eraill.

>>>A oes gwahaniaethau lleol o ran ôl-groniadau canser gynaecolegol (mynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel nad yw mynediad at ofal a thriniaeth canser gynaecolegol yn dibynnu ar ble mae menywod yn byw).

>>>I ba raddau y mae data'n cael ei ddadgyfuno yn ôl math o ganser (yn hytrach na chyfuno'r holl ganserau gynaecolegol) ac yn ôl nodweddion eraill, fel ethnigrwydd.

>>>A roddir blaenoriaeth ddigonol i ganserau gynaecolegol yng nghynlluniau gweithredu sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru/GIG Cymru ar iechyd a chanser menywod a merched, gan gynnwys manylion ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr arweinyddiaeth a’r arloesedd sydd eu hangen i wella cyfraddau goroesi i fenywod â chanser.

>>>I ba raddau y mae prinder ymchwil i ganserau gynaecolegol, a'u hachosion a'u triniaethau (gan gynnwys sgil-effeithiau triniaethau); a'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflymu ymchwil iechyd a datblygiadau meddygol wrth wneud diagnosis ac wrth drin canserau gynaecolegol.

>>>Y flaenoriaeth a roddir i gynllunio ar gyfer arloesiadau newydd (o ran therapi, cyffuriau, a phrofion) a all wella canlyniadau a chyfraddau goroesi i fenywod.

<<< 

 

Dyma waith y Pwyllgor ar y materion hyn:

>>>> 

>>>Cyhoeddwyd galwad am dystiolaeth rhwng 28 Hydref 2022 a 17 Mawrth 2023. Cafwyd 19 ymateb.

>>>Cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol ar 27 Ebrill, 10 Mai, 14 Mehefin a 29 Mehefin 2023.

>>>Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 21 Medi 2023.

>>>Gwnaethom weithio gyda Gofal Canser Tenovus i sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i’r ymchwiliad. Recordiodd ein Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o gyfweliadau fideo i roi cyfle i fenywod rannu eu straeon. Gallwch ddarllen mwy am eu straeon a gwylio’r fideos ar flog y Senedd.

>>> Cynhaliwyd cyfweliadau â menywod sydd â phrofiad byw o ganserau gynaecolegol. Gallwch ddarllen am y cyfweliadau hynny yn yr adroddiad ar ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu.

<<< 

 

Cymorth a chefnogaeth

 

Gofal Canser Tenovus

Os ydych chi'n poeni neu os oes gennych chi gwestiynau am ganser, neu os hoffech  gael mynediad at ein gwasanaethau, ffoniwch ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Gwefan: https://www.tenovuscancercare.org.uk/get-in-touch

 

Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo

Os oes gennych chi gwestiwn, eisiau gwybodaeth ddibynadwy neu efallai dim ond angen sgwrs a chlywed llais cyfeillgar, mae ein llinell gymorth am ddim ar gael i chi. Ffoniwch ni ar 0808 802 8000.

Gwefan: https://www.jotrust.org.uk/get-support

 

Target Ovarian Cancer

Pan fyddwch angen gwybodaeth, cymorth cyfeillgar neu rywun i siarad ag ef sy’n deall sut yr ydych chi’n teimlo – ffoniwch ein nyrsys arbenigol ar 020 7923 5475. Mae ein llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9 tan 5pm.

Gwefan: https://targetovariancancer.org.uk/support-for-you

 

Cymorth Canser Macmillan

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano wedi cael diagnosis o ganser, rydym yma i helpu. Ffoniwch ni ar 0808 808 00 00, 8am i 8pm. Mae'n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir a ffonau symudol yn y DU.

Gwefan: https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support

 

 

Eve Appeal

Os ydych yn poeni am unrhyw symptomau anarferol yr ydych wedi bod yn eu

cael, rydych newydd gael diagnosis ac eisiau siarad â nyrs gynaecolegol arbenigol hyfforddedig, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sydd wedi cael diagnosis, mae The Eve Appeal ar gael i ateb cwestiynau a phryderon. Ffoniwch 0808 802 0019. Mae'n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir a ffonau symudol.

Gwefan: https://eveappeal.org.uk/supporting-you/

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2022

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau