Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu
Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu
Inquiry4
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cynnal ymchwiliad er mwyn gwneud gwaith craffu ar ôl ddeddfu ar Ddeddf
Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae rhagor o
wybodaeth am y Ddeddf ar gael isod.
Cylch gorchwyl
Bydd y Pwyllgor
yn ystyried:
>>>>
>>> Gweithrediad ac effeithiolrwydd y Ddeddf hyd
yn hyn, gan gynnwys ei heffaith ar ganlyniadau cleifion, ei heffaith ar y
broses o recriwtio a chadw nyrsys, a’r rhwystrau sy’n bodoli o ran cydymffurfio
â’r ddeddfwriaeth.
>>> Y camau gweithredu pellach y mae eu hangen i
sicrhau cyflenwad cynaliadwy o staff nyrsio, a hynny er mwyn diwallu anghenion
cleifion a gofynion y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen.
>>> Y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu’r
sylfaen dystiolaeth i ymestyn y Ddeddf i leoliadau pellach.
>>> I ba raddau y mae’r Ddeddf yn addas ar gyfer
y dyfodol, ac i ba raddau y bydd yn cyfrannu at sicrhau bod gan GIG Cymru y
gweithlu sydd ei angen arno yn y dyfodol i ddarparu gofal effeithiol sy’n
canolbwyntio ar y claf ac sy’n diwallu anghenion pob grŵp poblogaeth.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich
safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i
gwerthfawrogi.
Gwnaethom alw am
dystiolaeth ysgrifenedig rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2023. Mae'r ymatebion
wedi'u cyhoeddi ar dudalen yr ymgynghoriad.
Gwybodaeth am
y Ddeddf
Trosolwg
Yn 2016, pasiodd
Cymru Ddeddf
Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i
gydnabod—mewn deddfwriaeth—y cysylltiad rhwng niferoedd staff nyrsio, y
cymysgedd sgiliau yn eu plith, a chanlyniadau cleifion.
Cafodd y
ddeddfwriaeth hon ei hysgogi gan bryderon am fethiannau mewn gofal nyrsio yn y
DU, gan gynnwys yr adroddiad
a gyhoeddwyd ynghylch yr ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG
Canol Swydd Stafford, ac yng Nghymru, yr adroddiad
‘Ymddiried mewn Gofal’, a oedd yn ymdrin ag ansawdd a diogelwch cleifion yn
Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Roedd y
ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd fel Bil Aelod gan Kirsty Williams AC, yn ceisio
sicrhau bod lefelau staff nyrsio o fewn GIG Cymru yn ddigonol i ddarparu gofal
nyrsio diogel, effeithiol o safon i gleifion drwy'r amser.
Yn gychwynnol,
roedd y Ddeddf yn gosod gofyniad ar fyrddau iechyd i gyfrifo a chynnal lefelau
staff nyrsio priodol ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion mewn
ysbytai. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth, a’i hynt drwy’r
Senedd, roedd bwriad clir i sicrhau bod y gofyniad hwn (y cyfeirir ato yn
gyffredinol fel adran 25B) yn cael ei ymestyn i leoliadau gofal iechyd eraill
yn y dyfodol. Ers mis Hydref 2021, mae hefyd wedi bod yn berthnasol i wardiau
pediatrig.
Prif elfennau
Mewnosododd y
Ddeddf yr adrannau newydd a ganlyn yn Neddf GIG Cymru
(Cymru) 2006 (cyfeirir at y prif
ddyletswyddau’n aml yn ôl rhif yr adrannau hyn):
>>>>
>>> 25A Dyletswydd gyffredinol ar fyrddau iechyd
lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG i roi sylw i'r pwysigrwydd o sicrhau lefel
briodol o staff nyrsio ym mhob lleoliad. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fo
byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan drydydd parti. Daeth y ddyletswydd
hon i rym ym mis Ebrill 2017.
>>> 25B Dyletswydd i gyfrifo a chynnal lefelau
staff nyrsio mewn lleoliadau penodedig (diffinnir ‘nurse staffing level’ yn y
Ddeddf fel “the number of nurses appropriate to provide care to patients that
meets all reasonable requirements in that situation” (“nifer y nyrsys sy’n
briodol i ddarparu gofal i gleifion sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y
sefyllfa honno”)). Yng nghyd-destun wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i
oedolion, daeth hyn i rym ym mis Ebrill 2018. Ers mis Hydref 2021, mae hefyd
wedi bod yn berthnasol i wardiau pediatrig i gleifion mewnol. Mae’r adran hon
hefyd yn darparu ar gyfer ymestyn y ddyletswydd i leoliadau eraill.
>>> 25C Mae’r adran hon yn nodi sut y dylid
cyfrifo lefelau staff nyrsio.
>>> 25D Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i
Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i fyrddau/ymddiriedolaethau
iechyd ar eu dyletswyddau o dan 25B a 25C.
>>> 25E Mae gofyn i fyrddau iechyd (ac
ymddiriedolaethau, pan fo’n berthnasol) baratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru yn
dangos sut y maent yn cydymffurfio ag adran 25B ar ôl cyfnod o dair blynedd. Yn
dilyn hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad cryno. Cafodd yr
adroddiad cryno cyntaf, ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis
Ebrill 2021, ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021.
<<<
Adroddiad y
Pwyllgor
Deddf Lefelau Staff
Nyrsio (Cymru) 2016: Gwaith craffu ar ôl deddfu
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2023
Ymgynghoriadau
- Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu (Wedi ei gyflawni)