Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: O bell 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

(09.30-11.45)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

 

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

Steve Elliot, Cyfarwyddwr Cyllid – Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru – Llywodraeth Cymru

Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi – Llywodraeth Cymru

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed – Llywodraeth Cymru
Irfon Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Poblogaethau – Llywodraeth Cymru

 

 

Briff ymchwil
Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
2.2 Llongyfarchodd y Cadeirydd Albert Heaney ar ddod yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am wasanaethau i ofal cymdeithasol yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2022.

 

(11.45)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.3

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch amseroedd aros

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.4

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd ynghylch amseroedd aros

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.5

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Fframweithiau Cyffredin dros dro ar gyfer Organau, Meinweoedd a Chelloedd ac ar gyfer Ansawdd a Diogelwch Gwaed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.6

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch yr Adroddiad Cyntaf ar Weithredu'r Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.7

Llythyr dilynol gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y DU/y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr dilynol.

 

3.8

Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 ledled y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.8 (a) Nododd Rhun ap Iorwerth y llythyr a gofynnodd a allai’r Pwyllgor ei drafod yn ystod eitem 6. Cytunodd y Cadeirydd.

 

3.9

Llythyr gan y Cadeirydd at Emrys Elias, Cadeirydd Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sesiwn graffu ar ôl penodi ar 4 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.10

Ymateb gan y Cadeirydd at Emrys Elias, Cadeirydd Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sesiwn graffu ar ôl penodi ar 4 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.10 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.11

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y broses benodi gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.12

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y broses benodi gyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.12 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.13

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.14

Llythyr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru gyda chwestiynau dilynol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.15

Llythyr gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.15 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.16

Llythyr gan Unsain at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.16 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.17

Llythyr gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.17 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.18

Llythyr gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.18 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.19

Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd ynghylch amserlen Busnes Pwyllgorau’r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.19 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7 a 9 cyfarfod heddiw

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.45-12.00)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd feysydd ac argymhellion i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft.

 

(12.00-12.15)

6.

Blaenraglen Waith

Papur 2 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod pa fusnes i'w gynnal ar 10 Mawrth a chytunwyd i ddychwelyd at y drafodaeth yn y cyfarfod nesaf.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y drafodaeth ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref yn ddiweddarach.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad o ran a ddylid ystyried y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus y DI i COVID hyd nes y byddai rhagor o wybodaeth ar gael, ac anfon ateb cwrteisi at y Prif Weinidog yn y cyfamser.

 

 

(12.15-12.30)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau: trafod y dull

Papur 3 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu.

7.2     Cytunodd y Pwyllgor y byddai swyddogion yn siarad ar wahân ag Aelodau a oedd am awgrymu rhanddeiliaid ychwanegol y dylid ceisio tystiolaeth ysgrifenedig ganddynt.

 

(13.00-14.00)

8.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr a The King’s Fund

Sue Hill, Cyfarwyddwr Dros Dro yng Nghymru - Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr
Jonathon Holmes, Cynghorydd Polisi - The King’s Fund
Danielle Jefferies, Dadansoddwr - The King’s Fund

 

 

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o The King’s Fund a Choleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr.

8.2 Cytunodd Jonathon Holmes – Cynghorydd Polisi, The King’s Fund – i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ar yr ystod o debygolrwydd y byddai pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn Lloegr yn aros yn hirach am driniaeth na phobl sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig.

8.3 Cytunodd Sue Hill – Cyfarwyddwr Dros Dro yng Nghymru, Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr – i ddarparu manylion am nifer y swyddi llawfeddygol gwag fel cyfran o'r gweithlu llawfeddygol yng Nghymru ac yn Lloegr.

 

(14.00-14.15)

9.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.