Effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Chweched Senedd

Effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Chweched Senedd

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud gwaith parhaus ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar y materion sydd o fewn ei gylch gwaith.

 

Gwaith a wnaed hyd yn hyn:

>>>> 

>>>Ar 23 Medi 2021, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ynghylch y pandemig gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Gynghorwr Gwyddonol ar Iechyd, a Chell Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru.

>>>Ar 7 Hydref 2021, cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth breifat ag arbenigwyr academaidd ynghylch materion sy’n ymwneud â’r adferiad yn dilyn Covid-19.

>>>Ar 13 Ionawr 2022, gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amserol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

>>>Ar 10 Chwefror 2022, gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amserol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn y sesiwn darparodd y Gweinidog bapur briffio ysgrifenedig ar docynnau COVID domestig a rhyngwladol.

>>>Rhwng hydref 2021 a gwanwyn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor alwad agored am dystiolaeth ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben yng ngwanwyn 2022

>>>Ar 1 Ebrill 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor at Gadeirydd yr ymchwiliad i COVID-19 ledled y DU a'r Prif Weinidog ynglŷn â chylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad dan sylw. Ar 3 Ebrill 2022, ymatebodd y Prif Weinidog i lythyr y Pwyllgor.

>>>Ar 11 Gorffennaf 2022 ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Pumed y Senedd yn ei ymchwiliad i effaith pandemig COVID-19 a’r ymateb i ar iechyd meddwl a lles.

>>>Ar 10 Awst 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor at Gadeirydd Ymchwiliad COVID-19 y DU a’r Prif Weinidog ynghylch modiwlau cychwynnol yr ymchwiliad, gan ofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio statws cyfranogwr craidd. Ar 30 Awst 2022, ymatebodd y Prif Weinidog i lythyr y Pwyllgor

>>>Ar 21 Medi 2022, cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y pandemic gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd a Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.

<<<


*Dechreuodd y Chweched Senedd yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2021. Cynhaliwyd Ymchwiliad gyda chylch gorchwyl tebyg gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Pumed Senedd rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2021

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau