Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Darlledir y cyfarfod hwn yn fyw ar www.senedd.tv |
||
(09:00-09:15) |
(Rhag-gyfarfod preifat) |
|
(09:15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon
Passmore AS |
|
(09:15-09:25) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Adfywio Canol Trefi. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brif Weithredwr a Chadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru: diweddariad yn dilyn y gwaith craffu a wnaed ar y cyd â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas ag adroddiad Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor ar drefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Lywodraeth Cymru: ymateb i lythyr y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dyddiedig 26 Chwefror 2024 ynghylch casglu data ar benodiadau cyhoeddus ac yn benodol ddata ar gyfeiriadau ymgeiswyr a phenodeion a'u gallu yn Gymraeg. Dogfennau ategol: |
||
(09:25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 4, eitem 7 ac eitem 8 ar agenda’r cyfarfod heddiw. Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:35-09:30) |
Papur i’w nodi (PREIFAT): Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol am ymddeoliad rhannol y Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nodwyd y papur. |
|
(09:30-10:30) |
Sesiwn dystiolaeth: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 (Rhan 1) Swyddogion
Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall
– Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Swyddog Cyfrifyddu Tim Moss – Prif
Swyddog Gweithredu Gawain Evans – Cyfarwyddwr
Cyllid Dominic Houlihan
– Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion fel rhan o waith
craffu’r Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer
2022-23. |
|
(10:30-10:45) |
(Egwyl) |
|
(11:45-12:15) |
Sesiwn dystiolaeth: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 (Rhan 2) Swyddogion
Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall
– Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Swyddog Cyfrifyddu Tim Moss – Prif
Swyddog Gweithredu Gawain Evans – Cyfarwyddwr
Cyllid Dominic Houlihan
– Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd Cofnodion: 6.1 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion fel rhan o waith
craffu’r Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer
2022-23. |
|
(11:45-12:15) |
Trafod y dystiolaeth: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12:15-12:30) |
Blaenraglen waith Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith ar gyfer
tymor yr haf 2024. |