Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon
Yn 2013, cafodd y trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb
athrawon mewn ysgolion eu harchwilio gan Archwilio Cymru mewn partneriaeth ag
Estyn – Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros
Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Roedd adroddiad Estyn yn canolbwyntio ar effaith
absenoldeb athrawon ar gynnydd dysgwyr, ac roedd adroddiad
Archwilio Cymru yn defnyddio canfyddiadau Estyn ac yn chwilio am atebion
i'r cwestiwn ehangach ynghylch a yw dysgwyr, ysgolion a phwrs y wlad yn cael
gwasanaeth da gan drefniadau sy’n ymdrin ag absenoldeb athrawon.
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ym mis
Tachwedd 2020 a oedd yn dilyn gwaith ei ragflaenydd yn 2013.
Ym mis Hydref 2023, ysgrifennodd yr Archwilydd
Cyffredinol at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i nodi
canfyddiadau allweddol o'i waith dilynol ar ymdrin ag absenoldeb athrawon.
Daw'r llythyr i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi
cymryd ystod o gamau perthnasol mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed yn
adroddiad Tachwedd 2020, fodd bynnag, bod rhai materion yn parhau.
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i ymgymryd â gwaith i archwilio'r mater hwn ymhellach.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar 21 Chwefror 2024. Wedi
hynny, ysgrifennodd
y Pwyllgor at Estyn i ofyn am eu barn ar y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan
gyfeirio at eu swyddogaethau a'u gwaith arolygu eu hunain.
Math o fusnes:
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/01/2024
Dogfennau