Penodiadau Cyhoeddus

Penodiadau Cyhoeddus

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i benodiadau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r broses o wneud penodiadau cyhoeddus, gan gynnwys trafod lle y gellid gwella’r broses i gynyddu amrywiaeth ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus a wneir gan Weinidogion Cymru.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn dystiolaeth gyntaf fel rhan o'r ymchwiliad gyda'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar 15 Rhagfyr 2022.

 

Ysgrifennodd y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus at y Pwyllgor ar 24 Chwefror 2023 i ymateb i rai o’r pwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth mewn rhagor o fanylder.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth ar:

-       3 ac 18 Mai, a 7 Mehefin 2023 gyda rhanddeiliaid allanol.

-       18 Mai gyda Llywodraeth Cymru.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor hefyd at bob un o bwyllgorau'r Senedd yn gofyn am eu safbwyntiau a'u profiadau o ran y broses o wneud penodiadau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Mae copïau o’r ymatebion i’w gweld isod.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2023. Yn dilyn hynny, darparodd Llywodraeth Cymru ragor o wybodaeth y gofynnodd yr Aelodau amdani yn y sesiwn dystiolaeth. Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth hon yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror 2024. Ysgrifennodd y Cadeirydd lythyr pellach at Lywodraeth Cymru ar 26 Chwefror ac ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2024.

 

 

Gwybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor

 

Fel rhan o'r ymchwiliad, mae tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd wedi cynnal cyfres o gyfweliadau gyda phobl sydd wedi llwyddo i gael swydd drwy’r broses o wneud penodiadau cyhoeddus, boed hynny ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, yn ogystal ag unigolion sydd wedi ymgeisio ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Cynhyrchodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion adroddiad: Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru: Adroddiad ar ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu, yn dilyn cwblhau’r cyfweliadau hyn.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2022

Dogfennau