Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Sefydlwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig newydd ym mis Ebrill 2021, gan ddisodli Gwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru. Mae ei rolau o ran trawsnewid darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys: darparu atebion digidol newydd, cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern, a gwella dulliau o ddefnyddio, rhannu a storio data.

 

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i gydweithio i graffu ar DHCW.

 

Yn benodol, bydd y Pwyllgorau yn ystyried:

>>>> 

>>>    Y broses o sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r cynnydd yn y flwyddyn gyntaf, y cynnydd a gyflawnwyd a'r heriau sy'n weddill.

>>>    Y cynnydd a wnaed ar argymhellion adroddiadau Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd.

>>>    Blaenoriaethu a’r gallu i reoli'r rhaglen waith a'r agenda newid, gan gynnwys y gweithlu, materion yn ymwneud â sgiliau, seiberddiogelwch ac unrhyw feysydd o bwysau neu bryder penodol.

>>>    Y gydberthynas â byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys grwpiau cleifion a chleifion.

>>>    Capasiti’r gweithlu a sgiliau o fewn cyrff iechyd a gofal eraill; a oes ganddynt ddigon o gapasiti i ymgysylltu a'r effaith bosibl ar gyflawni blaenoriaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

>>>    Asesu effaith gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac a yw'n cyflawni ei amcanion.

>>>    Tryloywder data, hygyrchedd, ansawdd a chymaroldeb â data iechyd a gofal cymdeithasol a dangosyddion perfformiad allweddol ledled y DU.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am wneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion, a safbwyntiau sy’n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt

 

>>>> 

>>>Derbyniodd y Pwyllgorau 20 o ymatebion ysgrifenedig i’n galwad am dystiolaeth.

>>>Ar 26 Hydref 2022 cynhaliodd y Pwyllgorau gyfarfod cydamserol i gymryd tystiolaeth lafar gan DHCW.

<<< 

 

Ar 5 Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hadroddiad. Mae’r Pwyllgorau wedi gofyn am ymatebion ysgrifenedig gan   Lywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau