Adfywio Canol Trefi

Adfywio Canol Trefi

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ym mis Medi 2021 yn seiliedig ar adolygiad Archwilio Cymru o sut mae Awdurdodau Lleol yn rheoli ac yn adfywio canol trefi.

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i’r mater hwn.

 

Mae’r Pwyllgor yn ystyried yr hyn sydd angen digwydd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am adfywio ac amddiffyn canol trefi yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ac yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, i gynnal trefi.

 

Ar 16 Mehefin 2022, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda’r Athro Karel Williams. Wedyn, aeth yr Aelodau ar ymweliad â safleoedd yng Nghaerfyrddin, Abertawe a’r Gogledd i lywio ei waith trafod ymhellach.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid allanol o Gymru, Lloegr a’r Alban ar 26 Ionawr 2023.

 

Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru ar 18 Mai 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 25 Ionawr 2024, mae bellach wedi cwblhau ei ystyriaeth o'r maes gwaith hwn.

 

Daeth ymateb Llywodraeth Cymru i law’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2024.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2024 a derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2022

Dogfennau