Craffu ar Gyfrifon – Llywodraeth Cymru 2021-22

Craffu ar Gyfrifon – Llywodraeth Cymru 2021-22

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy’n gyfrifol am drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru.

 

Craffodd y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2021-22 ym mis Mawrth 2023 a chyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Craffu ar Gyfrifon: Llywodraeth Cymru 2021-22 ar 20 Hydref 2023.

 

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru yng Ngwanwyn 2024.

 

Ysgrifennodd Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol – Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor ar 6 Rhagfyr 2024 gyda diweddariad ar Argymhelliad 8 yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor. Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr yn ei gyfarfod ar 22 Ionawr 2025.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/04/2024

Dogfennau