Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Drafft, Preifat 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei rhan.

 

(09.15 - 09.30)

2.

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd a thrafododd y Pwyllgor y dadansoddiad o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad.

 

(09.30 - 10.30)

3.

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Ffyrdd o weithio a rhannu arfer da

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr agwedd ar gylch gwaith y Pwyllgor sy’n ymwneud â chraffu ar weinyddiaeth gyhoeddus gyda chynrychiolwyr o Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban.

 

(10.30 - 11.15)

4.

Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion masnachol) – Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Esgusododd Cefin Campbell AS ei hun o'r eitem hon yn sgil y ffaith ei fod yn un o Aelodau dynodedig Plaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.

4.2 Trafododd y Pwyllgor y Fframweithiau Cyffredin a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â nifer o faterion.

 

(11.25 - 11.40)

5.

Papur i’w nodi

5.1

Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (19 Ionawr 2022)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papur.

 

5.2

COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru ar faterion iechyd (31 Ionawr 2022)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

5.3

COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru ar faterion llywodraeth leol (31 Ionawr 2022)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

(11.40 - 11.50)

6.

Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunodd i gynnal ymchwiliad yn nhymor yr haf.

 

(11.50 - 12.00)

7.

Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cydweithio rhwng y gwasanaethau brys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

(12.00 - 12.10)

8.

Blaenraglen waith Archwilio Cymru

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y bydd Archwilio Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyn bo hir ar ei raglen waith arfaethedig.

 

(12.10 - 12.30)

9.

Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd 2020-21: Trafod yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd a thrafododd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd i adroddiad y Pwyllgor.