Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

PAPA3

 

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr Adroddiad hwn ym mis Rhagfyr 2021 sy'n tynnu o adolygiad Archwilio Cymru o'r gwaith comisiynu lleoliadau cartref gofal i bobl hŷn yng Ngogledd Cymru. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid comisiynu ond roedd yn canolbwyntio'n bennaf ar Gynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Defnyddiodd Archwilio Cymru hefyd wybodaeth archwilio ehangach megis yr adolygiad Cymru gyfan o'r Gronfa Gofal Integredig ym mis Gorffennaf 2019 a data sydd ar gael i'r cyhoedd ar wariant a gweithgarwch. Canfu'r astudiaeth fod y rhaglen wedi llwyddo i ddod â gwahanol rannau o sector cyhoeddus Cymru at ei gilydd i adeiladu system o brofi ac olrhain cysylltiadau yn bennaf o'r newydd ac ar gyflymder. Er bod y rhaglen wedi ei chael yn anodd ymdopi ag uchafbwyntiau cynharach o ran lledaeniad y feirws, dysgodd yn gyflym ac esblygodd i'r heriau yr oedd yn eu hwynebu.

 

Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad yn nhymor yr haf 2022. Cyhoeddwyd yr adroddiad ynghylch Comisiynu Cartrefi Gofal ar 1 Medi 2022.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2022

Dogfennau