Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion masnachol) - Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus

Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion masnachol) - Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried y Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion masnachol) a’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus.

 

Fframweithiau cyffredin

 

Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, cytunodd Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu dulliau gweithredu cyffredin ledled y DU – neu 'fframweithiau' – mewn meysydd polisi a lywodraethwyd ynghynt gan gyfraith yr UE, ond sydd o fewn cymhwysedd y llywodraethau neu'r deddfwrfeydd datganoledig.

Mae rhagor o wybodaeth gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael ar y dudalen we’r fframweithiau cyffredin.

 

Taliadau hwyr: Fframwaith Cyffredin Dros Dro

Cyhoeddwyd y fframwaith cyffredin dros dro ar daliadau hwyr (Saesneg yn unig) ar 16 Rhagfyr 2021. Mae’r Fframwaith Taliadau Hwyr yn cael ei sefydlu i alluogi gweithrediad marchnad fewnol y DU, tra’n cydnabod yr ymwahanu o ran polisi rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ynghylch taliadau hwyr o ran trafodion masnachol.

 

 

Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus

Cyhoeddwyd y fframwaith cyffredin dros dro (Saesneg yn unig) ar gyfer Caffael Cyhoeddus ar 27 Ionawr 2022. Caiff y Fframwaith ei sefydlu oherwydd yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r canlyniadau a ganlyn a nodir yn Egwyddorion y Fframweithiau:

galluogi marchnad fewnol y DU i weithredu, ond gan gydnabod ymwahanu o ran polisi;

sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol; a

sicrhau y gall y DU drafod cytundebau masnach newydd a chytuniadau rhyngwladol newydd, ymrwymo iddynt a’u rhoi ar waith.

 

Ar 10 Chwefror 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at:

       Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; a

       Gweinidog yr Economi, i ofyn am ragor o wybodaeth am y fframwaith.

 

Ymatebodd Gweinidog yr Economi ar 25 Chwefror ac ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 1 Mawrth 2022. Trafododd y Pwyllgor ymatebion y Gweinidogion a chytunwyd arnynt.

 

Yn dilyn hynny, gwnaeth y Pwyllgor ysgrifennu at Weinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 23 Mehefin 2022 ynghylch eu sylwadau am y fframwaith, a’r dull gweithredu yn fwy cyffredinol.

Mae'r Pwyllgor bellach wedi gorffen ystyried y maes gwaith hwn.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2021

Dogfennau