Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gwahodd safbwyntiau ar sut y dylai’r Pwyllgor ymdrin â’r elfen o’i gylch gwaith sy’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus.

 

Dyma'r tro cyntaf i'r Senedd fod â phwyllgor penodedig yn ymdrin â gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae’r Pwyllgor bellach yn gyfrifol am graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan wasanaeth sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Fel ei ragflaenydd, mae hefyd yn gyfrifol am graffu ar gyfrifon cyhoeddus.

 

Er mwyn ein helpu i ystyried sut y dylem gyflawni'r rhan hon o'n cylch gwaith a beth ddylai ein blaenoriaethau fod, byddem yn croesawu eich barn ar y canlynol:

 

  • egwyddorion ac arfer gorau ar gyfer craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus;
  • pa wybodaeth a thystiolaeth y bydd eu hangen ar y pwyllgor er mwyn cynnal goruchwyliaeth effeithiol ar weinyddiaeth gyhoeddus; a
  • materion â blaenoriaeth y gallem fod eisiau eu hystyried.

 

Y Pwyllgor ei ac mae bellach wedi gorffen ystyried y maes gwaith hwn.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau