Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Drafft, Preifat
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/02/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon
Passmore AS. Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei rhan. |
|
(09.15 - 09.30) |
Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nododd a thrafododd y Pwyllgor y dadansoddiad o'r
ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad. |
|
(09.30 - 10.30) |
Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Ffyrdd o weithio a rhannu arfer da Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau yr agwedd ar gylch gwaith y
Pwyllgor sy’n ymwneud â chraffu ar weinyddiaeth gyhoeddus gyda chynrychiolwyr o
Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban. |
|
(10.30 - 11.15) |
Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion masnachol) – Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Esgusododd Cefin Campbell AS ei hun o'r eitem hon yn
sgil y ffaith ei fod yn un o Aelodau dynodedig Plaid Cymru fel rhan o'r
Cytundeb Cydweithio. 4.2 Trafododd y Pwyllgor y Fframweithiau Cyffredin a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â nifer o faterion. |
|
(11.25 - 11.40) |
Papur i’w nodi |
|
Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (19 Ionawr 2022) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nodwyd y papur. |
||
COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru ar faterion iechyd (31 Ionawr 2022) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion. |
||
COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru ar faterion llywodraeth leol (31 Ionawr 2022) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
(11.40 - 11.50) |
Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru a chytunodd i gynnal ymchwiliad yn nhymor yr haf. |
|
(11.50 - 12.00) |
Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cydweithio rhwng y gwasanaethau brys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru. |
|
(12.00 - 12.10) |
Blaenraglen waith Archwilio Cymru Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor y bydd Archwilio Cymru yn cynnal
ymgynghoriad cyn bo hir ar ei raglen waith arfaethedig. |
|
(12.10 - 12.30) |
Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd 2020-21: Trafod yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.1 Nododd a thrafododd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd i
adroddiad y Pwyllgor. |