Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1

PTN 1 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol – 12 Gorffennaf 2022

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol – 14 Gorffennaf 2022

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Cyllid Llywodraeth Cymru – 20 Gorffennaf 2022

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 – 26 Gorffennaf 2022

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Ymgynghoriad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – 5 Awst 2022

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2020-21 – 5 Awst 2022

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 / Trefniadau Cyllid yr UE – 22 Awst 2022

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Gwaith ynghylch Safonau Cwynion - 7 Medi 2022

Dogfennau ategol:

(09.30-10.00)

3.

Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru

Ruth Glazzard, Yr ymgeisydd a ffefrir gan y Gweinidog ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-22 P1 – Briff cyn penodi

FIN(6)-17-22 P2 – Cais/CV yr ymgeisydd a ffefrir

FIN(6)-17-22 P3 – Pecyn gwybodaeth yr ymgeisydd

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor Wrandawiad Cyn Penodi’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, Ruth Glazzard.

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 9, 10 ac 11, ac o ddechrau'r cyfarfod ar 29 Medi 2022

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(10.00-10.15)

5.

Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor addasrwydd yr ymgeisydd a ffefrir.

(10.15-11.00)

6.

Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-22 P4 – Adroddiad drafft

FIN(6)-17-22 P5 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Gwybodaeth Ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 30 Mehefin 2022 – 14 Gorffennaf 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

Cyhoedd

11.00-12.00

7.

Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 a Chynllun Blynyddol 2022-23: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Lindsay Foyster, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

 

Supporting documents:

FIN(6)-17-22 P6 - Archwilio Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22

FIN(6)-17-22 P7 - Archwilio Cymru - Adroddiad ar Ganfyddiadau'r Archwiliad – y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022

FIN(6)-17-22 P8 - Archwilio Cymru - Cynllun Blynyddol 2022-23

FIN(6)-17-22 P9 - Archwilio Cymru: Ymgynghoriad ar Raddau Ffioedd 2023-24

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.

 

7.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar yr adeg briodol am y costau gwirioneddol am:

 

·         Archwilio cyfrifon 2020-21 Llywodraeth Cymru.

(12.00-12.30)

8.

Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol 2022-23: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Lindsay Foyster, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Laurie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Busnes

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-22 P10 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Ein Gweithleoedd yn y Dyfodol - 7 Medi 2022

FIN(6)-17-22 P11 - Amcangyfrif Atodol 2022-23: Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.

 

8.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar yr adeg briodol am y costau gwirioneddol am:

 

·         dadfeilion yng nghyd-destun Heol y Gadeirlan.

Preifat

(12.30-12.35)

9.

Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd mewn egwyddor i'r cais am gyllid.

(12.35-12.45)

10.

Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 a Chynllun Blynyddol 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(12.45-13.00)

11.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 – Y Dull o Graffu ar y Gyllideb

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-22 P12 - Y Dull o Graffu ar y Gyllideb

FIN(6)-17-22 P13 – Llythyr ymgynghori

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y papurau ar y dull o gynnal y gwaith craffu ar y gyllideb.

(13.00-13.10)

12.

Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (PDF, 221KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.6MB)

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Trafododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a chytunodd i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd ar oblygiadau ariannol y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).