Goruchwylio gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Goruchwylio gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Fel rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Cyllid, mae'n gyfrifol am oruchwylio gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW).

 

Yn unol â Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Rheol Sefydlog 18A.2, cyfrifoldebau’r Pwyllgor yw:

 

  • adolygu gweithrediad ac effeithiolrwydd Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019
  • penderfynu ar y telerau sy'n gymwys o ran penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • arfer y swyddogaethau mewn perthynas ag anghymhwyso rhag dal rhai swyddi am gyfnod perthnasol unwaith y bydd person wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • archwilio'r amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;
  • ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol sy'n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o'r blaen drwy gynnig cyllidebol a basiwyd neu gynnig cyllidebol atodol a basiwyd mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • cynghori'r Senedd ar benodi a diswyddo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro.

 

Gellir gweld goruchwyliaeth y Pwyllgor o swyddogaethau cyllidebol ar ein tudalennau gwe.

 

Yn ystod cyfnod y Bumed Senedd, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol oedd yn gyfrifol am oruchwylio gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nad oedd yn ymwneud â’r gyllideb. Gellir gweld unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â phenodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am y cyfnod hwn drwy'r linc a ganlyn  (Dogfennau'r Bumed Senedd - Proses benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru). Gellir gweld gwaith craffu ar adroddiadau blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod hwn drwy'r linc a ganlyn (Dogfennau'r Bumed Senedd - Craffu ar adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru)

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar Enwebu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar 19 Ionawr 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/07/2021

Dogfennau