Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyflwyno ei amcangyfrif blynyddol o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i’r Senedd, fel sy’n ofynnol gan Baragraff 15, Atodlen 1 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. O dan Reol Sefydlog 20.24, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar ei amcangyfrif, a gosod adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, gerbron y Senedd yn dilyn ymgynghori ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Wrth wneud cynigion cyllidebol, mae'r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol roi sylw i'r Datganiad o Egwyddorion a gyhoeddir gan y Pwyllgor.

 

Gellir gweld yr holl wybodaeth o ran gwaith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar Amcangyfrif Blynyddol o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru isod:

 

Craffu ar Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2024-25

Craffu ar Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24

Craffu ar Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23

 

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2021