Datganiad o Egwyddorion

Datganiad o Egwyddorion

Mae Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol yn cael eu cyllid yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru; mae'r rhain yn cynnwys:

  • Comisiwn y Senedd;
  • Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru;
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • Y Comisiwn Etholiadol – ((Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn darparu ar gyfer cyllido gwaith y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau a refferenda datganoledig Cymru o Gronfa Gyfunol Cymru)).

Mae gan y cyrff hyn drefniadau gosod cyllideb a goruchwylio penodol i adlewyrchu eu rôl unigryw a'u hannibyniaeth ar Lywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am drafod a chyflwyno adroddiad ar gyllidebau/amcangyfrifon ariannol Comisiwn y Senedd, Archwilydd Cyfffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Mae Pwyllgor y Llywydd yn gyfrifol am drafod a chyflwyno adroddiad ar amcangyfrif ariannol y Comisiwn Etholiadol o ran ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru.

 

Yn ystod y Bumed Senedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad byr i gyllido Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol a’r nod oedd sicrhau cysondeb yn y modd roedd y cyrff hyn paratoi eu cynigion cyllidebol blynyddol.

 

Ym mis Mai 2019, o ganlyniad i’r ymchwiliad hwn, cyhoeddodd y Pwyllgor Ddatganiad o Egwyddorion (‘yr Egwyddorion’) (PDF, 224KB) yr oedd y Pwyllgor yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth wneud cynigion cyllidebol. (Nid oedd swyddogaethau’r Comisiwn Etholiadol yn rhan o  gyfrifoldebau’r Senedd ar y pryd).

 

Y Datganiad o Egwyddorion

Mae paragraff 9 o’r Egwyddorion yn rhoi ymrwymiad y bydd y Pwyllgor yn adolygu’r ddogfen yn ystod y flwyddyn y byddent yn cael eu rhoi ar waith ac o bryd i’w gilydd wedi hynny.

 

Yn 2020, y flwyddyn wedi iddynt gael eu rhoi ar waith, aeth y Pwyllgor ati i adolygu’r Egwyddorion a daeth i’r casgliad eu bod yn ateb y diben ac nad oedd angen unrhyw newidiadau.

 

Ar ddechrau’r Chweched Senedd, ar 8 Gorffennaf 2021, cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol barhau i ddilyn yr Egwyddorion drafft (PDF, 297KB) presennol wrth baratoi eu dogfennau cyllidebol. Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Diprwy Lywydd, yn ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor y Llywydd, i awgrymu y dylai’r Egwyddorion fod yn gymwys i’r Comisiwn Etholiadol i sicrhau cysondeb.

 

Ar 26 Ebrill 2023, cytunodd y Pwyllgor ei bod yn adeg briodol i adolygu’r Egwyddorion ac ysgrifennodd (PDF 151KB) at y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol i ofyn am eu barn.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Cyfnod 1

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/08/2021

Dogfennau