Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Ar 17 Ebrill
2024, cytunodd y Senedd ar y Cynnig
- NDM8537.
Mae’r cynnig yn
cyfarwyddo’r Pwyllgor Cyllid, yn
unol â Rheol Sefydlog
17.2:
“i adolygu ar
frys weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru i sicrhau:
a)
bod
didueddrwydd a thegwch yn bresennol drwy gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth
Ymchwiliadau; a
b)
y
gall y Senedd fod yn hyderus bod y swyddfa yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y
dyfodol mewn ffordd ddiduedd a theg.”
Yn ei gyfarfod ar
1 Mai, cytunodd y Pwyllgor ar ei Gylch Gorchwyl, sef ystyried:
>>>>
>>>y
digwyddiadau a arweiniodd at ymddiswyddiad un o arweinwyr tîm swyddfa Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r prosesau a ddilynwyd;
>>>y
gweithrediadau a'r prosesau sy'n gysylltiedig ag ymchwiliadau Cod Ymddygiad,
gan gynnwys trefniadau monitro a sicrhau ansawdd;
>>>a
yw’r mecanweithiau sydd ar waith yn swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru yn sicrhau’n ddigonol fod ei staff yn gweithredu (ac wedi gweithredu)
mewn ffordd ddiduedd a theg; a
>>>cwmpas,
rhychwant a chanfyddiadau’r adolygiad allanol annibynnol a gomisiynwyd gan yr
Ombwdsmon.
<<<
Ystyriaeth y
Pwyllgor:
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn
dystiolaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
|
|
|
|
|
|
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2024
Dogfennau