Goruchwylio Archwilio Cymru

Goruchwylio Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw nod masnachu dau endid cyfreithiol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae gan bob un ei bwerau a'i ddyletswyddau penodol ei hun:

 

>>>> 

>>>Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.

>>>Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn rhoi cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol.

<<< 

 

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gellir gweld dogfennau’n ymwneud â chyfrifoldebau'r Pwyllgor Cyllid yn y meysydd hyn ar gyfer tymor y Senedd hon (Chweched Senedd) isod, ac ar gyfer tymor y Pumed Senedd, trwy ddilyn y linc a ganlyn: (dogfennau’r 5ed Senedd)

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Penodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru – Ionawr 2023

 

Cynhaliodd Pwyllgor Cyllid y Pumed Senedd waith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2019.

 

Yn yr adroddiad, cytunwyd i ymgynghori ar Fil Drafft, gyda’r bwriad o’i gyflwyno yn ystod y Bumed Senedd. Gan fod y Bumed Senedd ar fin dod i ben, ni allai’r Pwyllgor gyflwyno Bil Drafft ond cyflwynodd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad. (PDF 915KB)

 

Bydd dogfennau a gyflwynir i’r Pwyllgor yn ystod tymor y Senedd hon mewn perthynas â’r gwaith hwn yn cael eu cyhoeddi ar dudalen wreiddiol yr ymchwiliad i’r ‘Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft’.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/07/2021

Dogfennau